Bydd cymorthyddion dosbarth yn cyfarfod Gweinidog Addysg Cymru heddiw (14 Medi), i’w annog i flaenoriaethu mynd i’r afael ag amodau gweithio sâl staff ysgolion.

Fe fydd Jeremy Miles yn mynychu Fforwm Staff Cefnogi Ysgolion undeb UNSAIN Cymru, a bydd yn clywed sut mae’r rhan fwyaf o gymorthyddion dosbarth ar gyflogau isel, yn cael diffyg cyfleoedd gyrfa, ac yn dibynnu ar waith rhan amser, anffurfiol.

Mae undeb UNSAIN yn galw am benodi swyddog fyddai’n gyfrifol am gyflwyno hyfforddiant priodol a strwythur i yrfaoedd cymorthyddion dosbarth.

Maen nhw am weld cyflog ac amodau teg hefyd, a sicrhau bod un drefn yn weithredol dros Gymru.

Ar hyn o bryd, £12,000 yw cyflog cymhorthydd dosbarth gradd un sydd wedi’i gyflogi’n ystod tymor ysgol yn unig, ac mae UNSAIN yn rhybuddio y gall y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol wrthwneud unrhyw godiad cyflog eleni.

“Llanast”

Dywedodd cadeirydd fforwm staff cefnogi mewn ysgolion UNSAIN Cymru, Jonathan Lewis, bod staff cefnogi mewn ysgolion yn “hanfodol” ar gyfer llwyddiant ysgolion.

“Mae staff cefnogi ysgolion yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ysgol ac maen nhw wedi profi eu hymrwymiad drwy gydol y pandemig, gan gadw ysgolion ar agor i blant sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol, tra bod eraill yn ynysu adre,” meddai Jonathan Lewis, sy’n gweithio mewn ysgol yn Sir Benfro.

“Mae gormod yn dioddef yn sgil cyflog isel iawn.

“Mae cael 22 awdurdod lleol yn gosod cyfraddau cyflog eu hunan ar gyfer cymorthyddion dosbarth yn llanast, a dydi profiad a chyfrifoldeb ddim bob tro’n cael eu cydnabod yn y strwythurau cyflog.

“Mae rhai cymorthyddion dosbarth yn gweithio heb ddisgrifiad swydd iawn; gallech chi gael yr un teitl swydd a chyflawni dyletswyddau gwahanol iawn, gan dderbyn cyflogau gwahanol iawn dros Gymru.

“Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, mewn egwyddor, bod angen strwythur cenedlaethol i gymorthyddion dosbarth a holl staff cefnogi ers blynyddoedd. Nawr yw’r amser i weithredu.”

Bydd cynrychiolwyr staff sy’n cefnogi mewn ysgolion yn holi a ddylid ailgyflwyno mygydau wyneb i ddysgwyr hŷn, staff ac ymwelwyr ysgolion, o ystyried y cynnydd sydyn mewn achosion Covid.