Dylai plant 12 i 15 oed gael cynnig dos cyntaf o frechlyn Pfizer/BioNTech, yn ôl pedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig.

Mae’r penderfyniad yn ystyried effaith y pandemig ar addysg plant, yn ogystal â’r risg i’w hiechyd meddwl wrth fethu’r ysgol.

Golyga hyn y gallai tua thair miliwn o blant fod yn gymwys i gael y brechlyn ledled y Deyrnas unedig, er bod y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI) wedi penderfynu peidio argymell brechu plant 12 i 15 oed.

Dywed y JCVI mai ychydig iawn o beryglon mae Covid-19 yn ei achosi i blant ac mai ychydig o fudd fyddai o’u brechu.

Ond fe wnaethon nhw awgrymu y dylai’r prif swyddogion meddygol ystyried materion ehangach, megis addysg, wrth wneud eu penderfyniad.

Mae’n debyg y byddai plant yn cael eu brechu drwy ysgolion.

Lleihau lledaeniad

Yn eu cyngor ar gyfer y llywodraethau, dywed y prif swyddogion meddygol eu bod nhw’n argymell brechlynnau ar sail “iechyd cyhoeddus”, a’i fod yn “debygol y bydd brechu yn helpu i leihau lledaeniad Covid-19 mewn ysgolion”.

“Mae Covid-19 yn afiechyd sy’n gallu cael ei drosglwyddo’n effeithiol drwy amgylchiadau lledaenu torfol, yn enwedig amrywiolyn Delta,” meddai’r prif swyddogion meddygol.

“Mae brechu cyfran sylweddol o ddisgyblion yn debygol o leihau’r tebygolrwydd o’r math hyn o achosion sy’n debygol o achosi clystyrau lleol mewn, ac yn gysylltiedig ag, ysgolion.

“Bydd hynny hefyd yn lleihau’r siawns fod plentyn unigol yn cael Covid-19. Mae hyn yn golygu bod brechu yn debygol o leihau (ond nid cael gwared ar) amhariadau i addysg.”

Mae’r prif swyddogion meddygol wedi gofyn i’r JCVI ystyried a ddylid rhoi ail ddos o’r brechlyn i blant 12 i 15 oed unwaith y bydd mwy o ddata ar gael yn rhyngwladol.

Fydd hynny ddim yn digwydd nes tymor y gwanwyn.

“Cynnydd lleol”

Mae’r prif swyddogion meddygol yn meddwl y byddai un dos yn lleihau’r siawns, yn sylweddol, i berson ifanc ddal Covid, ac yna ei basio ymlaen.

Ar ôl cael cyngor gan arbenigwyr, gan gynnwys colegau meddygol, dywedodd y prif swyddogion meddygol eu bod nhw’n ystyried addysg fel “un o brif yrwyr gwella iechyd cyhoeddus ac iechyd meddwl”.

“Mae effeithiau amhariadau i addysg, neu ansicrwydd, ar iechyd meddwl yn cael eu cydnabod,” meddai’r prif swyddogion meddygol mewn datganiad ar y cyd.

“Os yw amharu estynedig ar addysg yn arwain at lai o gyfleoedd bywyd gall gael effaith oes ar iechyd.

“Tra ei bod hi’n llai tebygol y bydd angen cau ysgolion yn llawn yn sgil cyfnodau clo yng nghamau nesaf pandemig Covid-19, mae prif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig yn disgwyl i’r epidemig barhau i fod yn estynedig ac anrhagweladwy.

“Dylid disgwyl cynnydd lleol mewn heintiadau, gan gynnwys mewn ysgolion, am beth amser. Lle mae hynny’n digwydd, mae’n debyg y bydd amharu.”

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig: “Pigiad ychwanegol i’r bobol fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth llawer mwy rhesymegol”

Mae Russell George, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb drwy groesawu unffurfiaeth rhwng prif swyddogion meddygol pedair gwlad y Deyrnas Unedig ar gynnig brechlyn Covid-19 i blant 12 i 15 oed.

Fodd bynnag, dywedodd bod rhoi “pigiad ychwanegol i’r bobol fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth llawer mwy rhesymegol”.

Dywedodd Russell George AoS, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: “Rwy’n falch o weld unffurfiaeth yn yr argymhelliad hwn ar draws y Deyrnas Unedig, yn enwedig o gofio y bydd hyn, gobeithio, yn golygu na fydd mwy o ddiwrnodau ysgol yn cael eu colli gan blant sydd wedi colli cymaint eisoes dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Dylai rhieni a phobol ifanc yn eu harddegau nawr benderfynu gyda’i gilydd a ddylid cael y pigiad ai peidio, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi ar eu rhyddid drwy basbortau brechlyn.

“Er bod y penderfyniad i ymestyn pwy all gael y brechlyn yn beth cadarnhaol, mae pigiad ychwanegol i’r bobol fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth llawer mwy rhesymegol a fydd yn atal derbyniadau i’r ysbyty ac llethu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel yr ydym yn ei weld yn awr ac, wrth gwrs, cyfyngiadau yn y dyfodol.

“Byddaf yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gadw hyn mewn cof os byddant yn gweithredu ar argymhelliad y Prif Swyddog Meddygol.”

Cyfraddau brechu: chwarter poblogaeth Cymru heb dderbyn brechlyn

Nid yw ychydig dros chwarter poblogaeth Cymru (25.3%) wedi derbyn unrhyw frechlyn Covid-19 – sy’n cyfateb i tua 802,000 o bobl.

Ymhlith y rhai 16 oed a throsodd, y gyfran gyffredinol yw 9.2%, er bod hyn yn amrywio’n sylweddol ar draws grwpiau oedran.

Nid yw tua 31.8% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael dos cyntaf eto – bron i 26,000 o bobl.

Mae 23.0% o bobl ifanc 18 i 29 oed heb gael eu brechu (112,000 o bobl) a 22.2% o bobl ifanc 30 i 39 oed (95,000).

Fodd bynnag, dim ond 3.8% o bobl 80 oed a throsodd sydd heb gael unrhyw frechlyn, tra bod y ffigwr ar gyfer pobl 75 i 79 oed yn 3.1%.

Cyfraddau achosion diweddaraf

Dyma ddiweddariad dydd Llun (13 Medi) o gyfraddau achosion Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (736.5) a Sir Gaerfyrddin yw’r ardal â’r cynnydd mwyaf o wythnos i wythnos (sef 556.6 i 714.5).

Dyma’r rhestr yn llawn, o’r gyfradd uchaf i’r isaf. Mae’n darllen, o’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 9; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 9; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 2; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 2.

Merthyr Tudful                                  736.5, (445), 751.4, (454)

Sir Gaerfyrddin                                 714.5, (1358), 556.6, (1058)

Castell-nedd Port Talbot                   707.8, (1022), 669.7, (967)

Abertawe                                         653.4, (1611), 687.0, (1694)

Caerffili                                           636.1, (1156), 509.5, (926)

Rhondda Cynon Taf                           562.3, (1360), 542.4, (1312)

Sir Ddinbych                                     548.3, (530), 506.9, (490)

Bro Morgannwg                                 532.9, (721), 401.3, (543)

Conwy                                             529.7, (626), 510.2, (603)

Blaenau Gwent                                 505.6, (354), 398.5, (279)

Ceredigion                                        489.7, (357), 363.5, (265)

Gwynedd                                          451.4, (565), 447.4, (560)

Pen-y-bont ar Ogwr                           450.7, (665), 418.9, (618)

Casnewydd                                       448.7, (702), 424.4, (664)

Ynys Môn                                          418.8, (295), 364.8, (257)

Torfaen                                             418.6, (397), 364.9, (346)

Powys                                               402.2, (535), 360.1, (479)

Sir y Fflint                                         401.0, (629), 347.5, (545)

Caerdydd                                          395.4, (1460), 388.4, (1434)

Wrecsam                                          392.5, (534), 313.1, (426)

Sir Benfro                                         354.2, (449), 436.3, (553)

Sir Fynwy                                          240.6, (229), 284.8, (271)