Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn annog pobol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i wirio eu cerdyn brechu a dod ymlaen os ydyn nhw’n aros am ail ddos o frechlyn Moderna.

Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un sy’n agosáu at wyth wythnos ers cael dos cyntaf o frechlyn Moderna i gysylltu â’r tîm brechlynnau i wneud apwyntiad cyn gynted â phosib, neu i fynychu clinig cerdded mewn.

Dywed Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, Hywel Dda, fod y canolfannau brechu torfol yn cysylltu â phobol sy’n aros am ail ddos o Moderna ond y dylai pobol wirio rhag ofn.

“Mae ein canolfannau brechu torfol yn cysylltu â phobol sy’n aros am ail ddos o Moderna yn uniongyrchol ond rhag ofn bod unrhyw un yn colli galwad gennym ni, rydyn ni am sicrhau bod pawb sy’n ddyledus am ail ddos, yn enwedig Moderna, yn gwybod ein bod yn gofyn iddynt ddod ymlaen cyn gynted â phosibl,” meddai.

“Mae’n bwysig derbyn dau ddos o’r brechlyn, ni waeth pa un a gawsoch, er mwn cael yr amddiffyniad tymor hir gorau.

“Mae brechlyn Moderna hefyd ar gael ym mhob clinig cerdded i mewn ar draws y tair sir a’r fan brechu symudol a fydd yn ymweld â siop Tesco Rhydaman ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18 Medi.”

Lleoliadau

Mae modd i bobol gafodd ddos cyntaf o Moderna wyth wythnos neu fwy yn ôl fynd i’w canolfan leol heb apwyntiad yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry) – ar agor o ddydd Llun, Medi 13 i ddydd Iau, Medi 16 rhwng 10.00am a 6.00pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael ddydd Iau, Medi 16 yn unig.
  • Rhydaman (maes parcio Tesco, Fan Brechu Symudol) – dydd Gwener, Medi 17 a dydd Sadwrn, Medi 18 rhwng 11.00am a 7.00pm.
  • Halliwell (cerdded i mewn), Caerfyrddin (hen Feithrinfa Y Gamfa Wen, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) – ar agor o ddydd Llun, Medi 13 i ddydd Iau, Medi 16 rhwng 10.00am a 4.00pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael.
  • Gyrru heibio yng Nghaerfyrddin (Maes Sioe’r Siroedd Unedig) – ar agor o ddydd Llun, Medi 13 i ddydd Iau, Medi 16 rhwng 10am a 6pm. Brechlyn Moderna ar gael.
  • Cwm-cou (Ysgol Trewen) – Ar agor dydd Mercher, Medi 15 a dydd Iau, Medi 16 rhwng 9.30am a 9pm. Brechlyn Pfizer a Moderna ar gael.
  • Hwlffordd (Archifau Sir Benfro) – ar agor o ddydd Llun, Medi 13 i ddydd Iau, Medi 16 rhwng 10am a 6pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael rhwng 10am a 4pm yn unig ddydd Iau, Medi 16.
  • Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, Uned 2a) – ar agor o ddydd Llun, Medi 13 i ddydd Iau, Medi 16 rhwng 10am a 4pm. Brechlynnau Pfizer a Moderna ar gael. AstraZeneca ar gael ddydd Iau 16 Medi yn unig.
  • Dinbych-y-pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod) – ar agor bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ar gyfer cerdded i mewn rhwng 10am a 4pm. Brechlynnau Pfizer, AstraZeneca a Moderna ar gael.

Fel arall, mae modd bwcio apwyntiad drwy ffonio 0300 3038322 neu e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk