Mae aelod seneddol Llafur y Rhondda wedi beirniadu’r toriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gredyd Cynhwysol.

Yn ôl Chris Bryant, fe fydd economi leol Cwm Rhondda yn colli £6.5m o ganlyniad i’r penderfyniad.

“Mae hynny am ei gwneud hi’n fwy anodd i fusnesau lleol allu fforddio staff ychwanegol, ac yn fwy anodd i ddod o hyd i swyddi,” meddai.

Mae e hefyd wedi ymateb yn chwyrn i awgrym Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, y gall pobol sy’n hawlio Credyd Cynhwysol weithio mwy o oriau er mwyn gwneud yn iawn am y toriadau.

Wrth ymateb, mae Will Quince, un o weinidogion yr adran, yn dweud bod effaith y toriadau’n dibynnu ar “amgylchiadau personol” pobol, hynny yw, faint o oriau mae pobol yn gweithio.

“Fe fu’r Llywodraeth yn glir erioed fod y cynnydd o £20 ond yn fesur dros dro i gefnogi cartrefi a gafodd eu heffeithio gan sioc economaidd Covid-19,” meddai.

“Fe fu ôl-ddatblygiadau sylweddol yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus ers i’r cynnydd gael ei gyflwyno.”