Mae tair menyw sy’n dysgu Cymraeg ym Mrifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Goffa Basil Davies am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Cafodd gwobr Goffa Basil Davies ei sefydlu yn 2017 ac mae’n cael ei chydlynu gan CBAC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gydnabod ymgeiswyr a enillodd y marciau uchaf yn eu harholiadau.
Cyflawnodd Lizzie Hobbs, Erin Pyle ac Elisabeth Haljas, aelodau o garfan Dysgu Cymraeg Caerdydd eleni, y sgorau uchaf yn arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC.
Mae rhaglen Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei chyflwyno gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, wedi paratoi cyfanswm o 293 o ddysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ar gyfer arholiadau CBAC eleni, gyda’r addysgu a’r asesu’n cael eu gwneud dros Zoom am y tro cyntaf oherwydd Covid-19.
‘Syfrdan’
Daw Elisabeth Haljas o Estonia’n wreiddiol, ac mae hi wedi bod gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd ers 2018, pan symudodd i’r Deyrnas Unedig i astudio i fod yn ddietegydd.
“Rwy’n syfrdan ond hefyd mor falch i dderbyn Gwobr Basil Davies,” meddai.
“Rwyf i wrth fy modd fy mod yn gallu cyfathrebu gyda phobol Gymraeg yn eu mamiaith.
“Mae’n deimlad gwych cael datblygu fy sgiliau dros y blynyddoedd ac rwyf i wedi cyfarfod â chymaint o bobol hyfryd ar hyd y daith.
“Mae dysgu Cymraeg wedi cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol a hwyliog i mi. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld i ble arall y bydd yn mynd â fi.”
‘Hyder’
Derbyniodd ei chyd-enillydd Lizzie Hobbs Wobr Goffa Basil Davies am ei llwyddiant ar y cwrs lefel Sylfaen.
Daw’n wreiddiol o Fangor, ac mae hi bellach yn byw yn Abertawe.
Ymunodd â Dysgu Cymraeg Caerdydd ym mis Ionawr 2021 i helpu ei gyrfa.
“Rwy’n hynod o falch o fy llwyddiant ar y cwrs Sylfaen,” meddai.
“Roeddwn i’n awyddus ers tro i siarad Cymraeg yn rhugl, felly mae’n teimlo’n wych fy mod yn gweithio at hynny.
“Mae’r dosbarthiadau a fy nhiwtor rhagorol hefyd wedi rhoi llawer o hyder i fi ddefnyddio fy Nghymraeg.”
“Anrhydedd”
Ymunodd Erin Pyle, a enillodd y wobr am ei gwaith ar y cwrs lefel Canolradd, â Dysgu Cymraeg Caerdydd i helpu ei gyrfa hefyd.
Daw o Elái yng Nghaerdydd, ac mae’n hyfforddi i fod yn Diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’n defnyddio ei Chymraeg yn rheolaidd yn ei gwaith yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
“Mae ennill y wobr yn fraint ac yn anrhydedd cwbl annisgwyl,” meddai.
“Mae fel pe bai gan Gymru ddiwylliant cudd sydd wedi’i greu gan siaradwyr Cymraeg ac mae dysgu Cymraeg wedi agor y drws i fi, gan ddatgelu’r ‘gyfrinach’ am bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.”
‘Balch’
Dywedodd Lowri Bunford-Jones, Rheolwr Dysgu Cymraeg Caerdydd.
“Rydym ni’n falch iawn i fod wedi gallu cefnogi Lizzie, Erin ac Elisabeth i ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r hyn a fu’n flwyddyn o heriau a chyfleoedd i ni a’n dysgwyr,” meddai.
“Ynghyd â rhannau eraill o’r Brifysgol, symudon ni ein holl gyrsiau ar-lein ym mis Mawrth ar ddechrau’r pandemig.
“Ac er ei bod yn dipyn o daith ddysgu, mae’n golygu bod pobl o bedwar ban byd wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg gyda’n tiwtoriaid profiadol.
“Felly fe edrychwn ni ymlaen at barhau â’r daith gyda phob un ohonyn nhw – gan gynnwys enillwyr y gwobrau – pan fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi.”