Mae cynlluniau i newid ysgol yng ngogledd Powys i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir Powys.

Mae’r Cyngor eisiau newid y ddarpariaeth ieithyddol yn Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys yn raddol, fel ei fod yn lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg yn y pendraw.

Ysgol dwy ffrwd yw hi ar hyn o bryd, ond ar ôl ystyried yr adroddiad gwrthwynebu, mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo’r cynlluniau i’w newid, fesul cam, i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.

Bydd y newid yn dechrau gyda’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.

Ni fydd hyn yn effeithio ar y disgyblion sydd yn yr ysgol yn barod, gan y byddai disgyblion sy’n cael darpariaeth cyfrwng Saesneg nawr yn parhau i gael mynediad at y ddarpariaeth honno nes iddyn nhw adael.

‘Cwbl ddwyieithog’

“Bydd symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwwm ieithyddol yn ein helpu ni i ddiwallu’r nodau ac amcanion o fewn ein Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys,” meddai’r Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys.

“Fe fydd yn sicrhau hefyd fod yr holl ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol yn cael y cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gyfrannu felly at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

 

Cam yn nes at droi Ysgol Dyffryn Trannon yn ysgol Gymraeg

Sêl bendith wedi’i roi er mwyn cyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol yn cynnig y newid