Byddai mwy o dâl salwch a hawliau gweithwyr cryfach yn rhan o “fargen newydd” ar gyfer cyflogaeth o dan y blaid Lafur, meddai Syr Keir Starmer.

Mewn araith, ymosododd arweinydd yr wrthblaid ar benderfyniad Boris Johnson i godi Yswiriant Gwladol, gan ddweud bod y Torïaid yn “codi trethi ar deuluoedd sy’n gweithio”.

Fe wnaeth Keir Starmer gydnabod y “gwirionedd anghyfforddus” ei bod yn anodd gorfodi newidiadau ym mholisi’r Llywodraeth o feinciau’r wrthblaid yn wyneb mwyafrif y prif weinidog a’i lywodraeth.

Daw’r cyfaddefiad, a gafodd ei wneud gerbron cynhadledd TUC sy’n cael ei chynnal ar-lein oherwydd pandemig Covid-19, ar adeg dyngedfennol i arweinydd Llafur cyn ei gynhadledd Lafur wyneb yn wyneb gyntaf yn arweinydd yn ddiweddarach ym mis Medi.

Mewn araith lle gwnaeth e gyfeirio’n helaeth at ei brofiad personol fel mab i wneuthurwr offer, dywedodd fod ei dad yn gweithio rhwng 8yb a 5yh, cyn dod adref am swper a mynd yn ôl i’r gwaith o 6yh tan 10yh “er mwyn darparu ar gyfer ein teulu”.

Codi’r isafswm cyflog

Ategodd e ymrwymiad Llafur i gynyddu’r isafswm cyflog i £10 yr awr.

“Mae’n rhaid cael swydd y gallwch chi fagu teulu arno ac sy’n cynnig sylfaen gadarn y gallwch chi adeiladu eich bywyd arni, heb boeni faint o oriau y byddwch chi’n cael yr wythnos nesaf neu sut fyddwch chi’n talu’r biliau os byddwch chi’n mynd yn sâl.

“Bydd cytundeb newydd Llafur yn darparu’r sicrwydd hwnnw drwy sicrhau hawliau sylfaenol i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf yn y swydd: gan gynnwys tâl gwyliau; amddiffyn rhag diswyddo annheg; a thâl salwch gwarantedig.

“Mae gennym un o’r cyfraddau cyflog salwch isaf yn Ewrop. Dyw hynny ddim yn ddigon da, felly yn ogystal â gwarantu tâl salwch, bydd cytundeb newydd Llafur yn ei gynyddu hefyd.”

“Plaid pobol sy’n gweithio”

Ychwanegodd Keir Starmer fod plaid Boris Johnson yn “codi trethi ar deuluoedd sy’n gweithio” ond mai “Llafur yw plaid pobol sy’n gweithio”.

Mae Llafur wedi cael hwb gan arolwg barn YouGov yn gynharach yn y mis a ddangosodd y blaid ar y blaen i’r Torïaid am y tro cyntaf ers mis Ionawr.

A phwysleisiodd yr arweinydd yr angen i Lafur fod mewn grym er mwyn cyflawni eu nodau.

“Y gwir anghyfforddus yw, nes bod gennym lywodraeth Lafur, bydd ein galwadau am newid yn rhwystredig,” meddai.

“Mae gennym ddyletswydd i uno a chydweithio.

“Os gwnawn ni hynny, gallwn herio’r Llywodraeth asgell dde hon, ennill yr etholiad cyffredinol nesaf, a chyflawni’r trawsnewid y mae pobol sy’n gweithio ei angen.”

Ond roedd awgrym fod y berthynas rhwng Keir Starmer ac Uno’r Undeb, rhoddwr mwyaf y blaid, yn parhau’n anodd, wrth i Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, ddweud bod yr undeb “bellach yn canolbwyntio ar amddiffyn swyddi, cyflog ac amodau ein haelodau”.

“Dyma’r unig ffordd y gallwn sicrhau nad yw gweithwyr yn talu’r pris am y pandemig hwn,” meddai.

“Mae hyn yn digwydd yn awr. Mae angen i Lafur wneud yr un peth.”