Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi mynegi pryder bod disgwyl i lofrudd a gafodd dair dedfryd o garchar am oes yn 1998 gael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.

Cafwyd Nicholas Burton yn euog o lofruddio Rachel McGrath, 27, ym maes parcio tafarn yn Bramhall, Sir Gaer fis Ebrill 1997 ar ôl iddi gael ei galw yno i gasglu ei chariad.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod rhieni Rachel McGrath wedi cael gwybod y bydd Nicholas Burton yn “cerdded yn rhydd y flwyddyn nesaf”.

Mae brawd Rachel McGrath bellach yn byw yn Nwyfor Meirionnydd, etholaeth Liz Saville-Roberts, a dywedodd hi wrth Dŷ’r Cyffredin fod Michael McGrath yn brwydro am gyfiawnder i’w deulu.

Ychydig oriau ar ôl llofruddio Rachel McGrath, fe wnaeth Burton herwgipio merch 17 oed oedd wedi stopio mewn siop bapurau ar ei ffordd i’w gwaith yn Stockport, cyn cael ei gorfodi i yrru i Gymru.

Cafodd Burton ei arestio yng Nghaernarfon, ac 11 awr ar ôl cael ei herwgipio, fe wnaeth y ferch 17 oed o Stockport ddianc heb gael ei hanafu.

Roedd e wedi bygwth ei llofruddio, a dywedodd wrth lys wedyn ei fod yn bwriadu ei threisio a’i llofruddio.

‘Didrugaredd’

“Fe wnaeth barnwr yr achos ddisgrifio Burton fel didrugaredd a thwyllodrus gan argymell na fyddai’r un Ysgrifennydd Cartref – fel oedd y trefniant ar y pryd – yn debygol o ganiatáu iddo gael ei ryddhau fyth,” meddai Liz Saville Roberts wrth aelodau seneddol.

“Clywodd rhieni oedrannus Rachel yn ddiweddar bod Burton am gerdded yn rhydd y flwyddyn nesaf.

“Dydyn nhw heb allu gwneud datganiad dioddefwr ac maen nhw’n credu nad yw’r prosesau cywir wedi cael eu dilyn.

“A fydd e, os gwelwch yn dda, yn cytuno i gynnal cyfarfod gweinidogol gyda’r teulu er mwyn helpu i sicrhau bod ganddyn nhw’r holl wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw, bod eu llais nhw’n cael ei glywed a’i barchu?” gofynnodd Liz Saville Roberts i Weinidog Cyfiawnder y Deyrnas Unedig.

Wrth ateb, fe wnaeth Alex Chalk ddiolch i Liz Saville-Roberts am godi achos “eithriadol o sensitif, trallodus, ac, yn syml, dychrynllyd”.

“Ie, wrth gwrs, byddwn wrth fy modd yn eu cyfarfod,” meddai wedyn.

Dywedodd fod rhaid i ddioddefwyr fod yn gyfranwyr, yn hytrach na gwylwyr, mewn materion o’r fath.

Wrth siarad yn ystod yr achos llys yn erbyn Burton yn 1998, dywedodd y Barnwr Morland wrth Lys y Goron Lerpwl fod seiciatrydd wedi ei ddisgrifio fel un o’r dynion mwyaf peryglus iddi ddod ar ei draws yn ystod ei gyrfa.

Dywedodd y barnwr wrtho ei bod hi’n “argymell nad yw’r un ysgrifennydd cartref yn debygol o dy ryddhau di fyth”.