Mae dros 4,000 o fusnesau bach yng Nghymru wedi derbyn Benthyciadau Cychwyn (Start-up loans) gan Fanc Busnes Prydain dros y blynyddoedd.

Mae hynny’n gyfanswm o bron i £39m sydd wedi ei wario yng Nghymru.

Fe sefydlodd y Banc y fenter Benthyciadau Cychwyn Busnes yn 2012 i ddarparu cyllid, cefnogaeth a mentoriaeth i berchnogion busnesau sydd newydd ddechrau.

O’r £39m sydd wedi ei ddarparu yng Nghymru, mae £3.2m wedi ei roi i sefydlwyr busnes Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig arall.

Roedd 30% o’r holl fenthyciadau wedi eu rhoi i berchnogion busnes 30 oed neu iau.

Abertawe yw’r awdurdod lleol sydd wedi cael y mwyaf o fenthyciadau unigol gyda 529, tra bod Caerdydd wedi cael cyfanswm o 489.

Ledled Prydain, mae’r Banc wedi rhoi gwerth £600m o fenthyciadau i fusnesau sy’n cychwyn y tu allan i Lundain.

Darparu cefnogaeth

Fe wnaeth Bethan Bannister, Uwch Reolwr Banc Busnes Prydain yng Nghymru, ddweud ei bod hi’n “falch” o’r cynllun hyd yn hyn, sy’n galluogi i fusnesau bach ddechrau arni’n llwyddiannus.

“Mae darparu cyllid gwerth £600m i fusnesau newydd y tu allan i Lundain yn garreg filltir enfawr i’r rhaglen Benthyciadau Cychwyn Busnes a gefnogir gan y llywodraeth ac mae’n adlewyrchu amrywiaeth ac uchelgais eang busnesau bach y genedl ar lefel llawr gwlad ledled y wlad gyfan,” meddai.

“Rydyn ni bob amser wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a chyllid i fusnesau bach a chanolig sy’n hanu o bob cornel o’r wlad, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd lle gallai pobol ei chael hi’n anodd cael gafael ar gyllid, ac mae’r garreg filltir hon yn deyrnged i hynny.

“Rydym yn falch bod ein benthyciadau, ein mentora a’n cefnogaeth i ddarpar entrepreneuriaid a phresennol yn helpu i gefnogi strategaeth Ailgodi’n Gryfach (Build Back Better).”