Mae NEU Cymru, undeb addysg mwyaf y wlad, wedi ymateb i’r penderfyniad i gynnig y brechlyn Covid-19 i bob plentyn rhwng 12 a 15 oed.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, gadarnhau’r canllawiau newydd mewn cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Medi 14).

Roedd prif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig eisoes wedi argymell yn ddiweddar y dylid brechu’r grŵp oedran hwn.

Bydd yr holl blant o’r oedrannau hyn yng Nghymru nawr yn cael cynnig y brechlyn Covid-19 mewn canolfannau brechu torfol, ac mewn rhai ysgolion yn unig.

Ymateb

Mae David Evans, Ysgrifennydd NEU Cymru, yn dweud bod angen i’r cynllun brechu beidio â tharfu ar adferiad addysg, ond mae’n gobeithio y bydd yn gam at ddychwelyd i normalrwydd.

“Rydyn ni’n gwybod fod pawb ym myd addysg eisiau i ysgolion a cholegau weithredu mor “normal” â phosib, gan osgoi tarfu ar staff a myfyrwyr,” meddai.

“Gallai’r penderfyniad hwn helpu i wireddu’r angen hwn, lle gall plant barhau i fynychu eu hysgol neu goleg dros gyfnod y gaeaf.

“Er ein bod yn cydnabod fod y penderfyniad wedi’i bwyso a’i fesur yn ofalus, mae’n hanfodol bod y Gwasanaeth Iechyd nawr yn arwain y cynlluniau yn y maes hwn.

“Rydyn ni hefyd yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith Covid hir ar blant.

“Mae angen i ysgolion ganolbwyntio ar adferiad addysg, felly mae’n hanfodol sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch â phosib – ein nod ni wastad yw bod dysgu mor ddiogel â phosib i staff a myfyrwyr.”

Brechu “ddim yn ateb pob problem”

Mae David Evans yn ychwanegu bod angen sicrhau mesurau diogelwch eraill ar gyfer sefydliadau addysg, a pheidio dibynnu ar frechu.

“Mae’r brechlyn yn offeryn defnyddiol, ond dydy o ddim yn ateb pob problem,” meddai.

“Rydyn ni’n siarad â Llywodraeth Cymru am wella awyru mewn sefydliadau addysg yng Nghymru – maen nhw wedi cymryd rhai camau i’w croesawu, o ran monitro CO₂ – ond mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod pob adnodd ar gael i gadw ysgolion a cholegau ar agor.”