Mae cwmni wedi cael eu beirniadu ar ôl hysbysebu eglwys ym Mhen Llŷn sydd wedi’i throsi’n dŷ gwyliau, gan restru “mynwent fel gardd” yn rhan o’i hatyniad.

Mae’r neges gan Abersoch Holiday Homes Ltd ar Facebook ynghylch yr eglwys yn Rhiw, sydd bellach wedi’i dileu, wedi ennyn cryn ymateb gan bobol yn dweud ei bod yn “gywilydd” a “di-chwaeth”, ac nad oes “unman yn ddiogel rhag dai gwyliau”.

Mae’r lluniau ar wefan y cwmni’n dangos bod y cerrig beddi’n dal yn y fynwent, ac mae rhai yn holi a ydi hi’n dal yn bosib mynd i’w gweld.

Ar wefan Abersoch Holiday Homes, mae’r ardal tu allan i’r safle’n cael ei disgrifio fel “mynwent weithredol dlos, gyda waliau o’i hamgylch, beddi, cadeiriau a golygfeydd pell o’r môr tua Phorth Neigwl”.

‘Di-chwaeth’

Wrth fynd ymlaen i ddisgrifio Eglwys Aelrhiw, a gafodd ei hadeiladu yn y ddeunawfed ganrif ar seiliau eglwys gynharach, dywedodd y cwmni y bydd pobol yn “disgyn mewn cariad â’r cartref anghyffredin” hwn.

“O’r munud y byddwch chi’n mynd mewn i fynwent yr eglwys, mae yna ymdeimlad bod rhywbeth arbennig am Eglwys Aelrhiw,” meddai Abersoch Holiday Homes mewn neges ar Facebook.

“Bydd nodweddion gwreiddiol yn eich croesawu yn yr encil hon o’r ddeunawfed ganrif; y fedyddfaen wreiddiol, to bwaog, arysgrifau yn y golwg, a mynwent fel gardd hyd yn oed!

“Gyda’r traeth, siopau, tafarndai, llwybrau a chymaint mwy ar stepen drws, fe wnewch chi ddisgyn mewn cariad â’r cartref anghyffredin hwn.”

Wrth ymateb i’r neges, dywedodd un person fod “A allwn ni addasu fan hyn?” yn gwestiwn llai pwysig na “A ddylem ni addasu fan hyn?”

“Di-chwaeth, a dweud y lleiaf,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Abersoch Holiday Homes Ltd am ymateb.