Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn wedi ei ganfod yn farw mewn tŷ yng Ngwynedd.

Cadarnhaodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi cael eu galw i Stad Adwy Ddu ym Mhenrhyndeudraeth fore dydd Llun (Medi 13) yn dilyn adroddiadau am bryderon am ddiogelwch unigolyn.

Cafodd dyn 45 oed ei ganfod yn farw yno.

“Cafodd yr heddlu alwad yn fuan wedi 11am ddoe yn adrodd am bryder am ddiogelwch unigolyn ar Ystâd Adwy Ddu ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Wrth fynychu’r eiddo, cafodd dyn 45 oed ei ganfod yn farw.

“Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

“Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac ar hyn o bryd, rydym yn cynnal ymholiadau ar ran y crwner.”