Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud ei bod yn “bwysicach nag erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobol Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin”.

Daw’r datganiad wrth i Gymru barhau i ymdopi ag effeithiau Covid-19, yr argyfwng hinsawdd a’r bygthiad i ddatganoli.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am adeiladu “dyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws”.

Mae lle i gredu nad yw’r cytundeb yn gyfystyr â chlymbleidio ffurfiol, ond fod angen cefnogaeth ar y Llywodraeth i basio rhai deddfau gan nad oes ganddyn nhw fwyafrif clir.

Datganiad

“Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin,” meddai’r datganiad ar y cyd.

“Cynhaliwyd trafodaethau dechreuol adeiladol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru i edrych ar ffyrdd o adeiladu cenedl fwy cyfartal, cyfiawn a democrataidd i bawb.

“Mae’r trafodaethau hyn yn parhau i archwilio cytundeb cydweithredu uchelgeisiol i’w seilio ar nifer o flaenoriaethau polisi penodol, yn ogystal â threfniadau llywodraethiant lle gall Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru.”

Ymateb y gwrthbleidiau

“Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig fod pleidiau’n gallu cydweithio i herio’r materion mawr sy’n effeithio ar Gymru,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y manylion, ond byddwch yn sicr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y byddaf yn parhau i fynnu gwell ar ran pobol gyffredin ledled Cymru ac yn eu dal i gyfrif.

“Yn erbyn cefnlen o ansicrwydd swyddi, costau byw cynyddol a’r coronafeirws, mae angen i bobol ledled Cymru weld yn ymarferol beth fydd y cytundeb hwn yn ei olygu i’w bywydau bob dydd.”

“Does ond angen i chi edrych ar raglen bolisi Llafur Cymru i weld ei bod hi wedi rhedeg allan o syniadau,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mewn datganiad.

“Ond mae troi at genedlaetholwyr heb unrhyw fandad yn weithred ddespret a gwallgof.

“Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru’n honni bod yn blaid newid ond maen nhw bob amser yn gweithredu ar ran eu meistri Llafur – edrychwch ar gyn lleied maen nhw’n pleidleisio yn erbyn eu cyllidebau.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar ei gliniau.

“Mae plant wedi colli misoedd o ysgol.

“Mae angen cefnogaeth ar yr economi.

“Edrychwch wrth i addewidion o adferiad Covid droi’n anobaith hunllefus o adeiladu gwladwriaeth a chasglu pwerau.

“Maen nhw, ill dwy, wedi’u hysgaru oddi wrth flaenoriaethau pobol.”