Mae Partneriaeth John Lewis wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu recriwtio mwy na 7,000 o weithwyr dros dro dros gyfnod y Nadolig.

Yn ôl penaethiaid y busnes, sy’n cynnwys siopau John Lewis ac archfarchnad Waitrose, fe fyddan nhw’n recriwtio 2,000 yn fwy o staff na’r llynedd, er mwyn cwrdd â’r galw disgwyliedig dros y Nadolig.

Fe fydd y staff yn gweithio ar draws eu siopau, archfarchnadoedd ac yn gynnwys gyrwyr ar gyfer yr adran siopa ar-lein.

Maen nhw hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n cyflogi 550 o yrwyr a gweithwyr warws parhaol llawn amser yn eu canolfannau dosbarthu a safleoedd Waitrose.com a John Lewis.com.

Ychwanegodd y cwmni y bydd staff newydd, neu bartneriaid, a gweithwyr dros dro yn cael cynnig bwyd a diod am ddim “er mwyn sicrhau ein bod yn denu’r help sydd ei angen arnom.”

Mae’r cwmni yn lansio siopau Nadolig o fewn eu siopau o fis Hydref ynghyd a 100 o nwyddau Nadolig newydd.