Mae meddygfeydd Llambed a Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno cyfyngiadau pellach ar gleifion.

Daw hyn yn dilyn cynnydd sylweddol mewn canlyniadau prawf Covid-19 positif yn yr ardal.

Fe gyhoeddodd Grŵp Meddygol Bro Pedr bod y mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o heddiw (Dydd Mercher, 15 Medi) ymlaen, a hynny ym meddygfeydd Taliesin, Llambed, a Brynmeddyg, Llanybydder.

Maen nhw’n pwysleisio bod y meddygfeydd ddim ar gau, ond eu bod yn gofyn i bobol drefnu prawf PCR, nid prawf llif unffordd, cyn ymweld.

Yn ogystal, dim ond unigolion sydd wedi trefnu apwyntiad fydd yn cael mynediad i’r meddygfeydd.

Datganiad

Roedd ychydig o ddryswch i ddechrau gan fod y datganiad ar wefan Practis Meddygol Llanbedr Pont Steffan yn nodi y byddan nhw’n “cau drysau’r feddygfa.”

“Oherwydd y niferoedd cynyddol uchel o achosion positif Covid-19 yn ein hardal, byddwn yn cau drysau’r feddygfa o yfory (dydd Mercher 15 Medi) ym meddygfeydd Llambed a Llanybydder,” meddai’r datganiad.

“Cynghorir unrhyw un sy’n cysylltu â’r feddygfa sydd â symptomau peswch/dolur gwddf/tymheredd i archebu prawf PCR cyn y gallant weld meddyg.

“Ni ddylid dibynnu ar brawf llif unffordd negyddol i fod yn ganlyniad calonogol.

“Dim ond os oes ganddyn nhw apwyntiad sydd wedi ei drefnu ymlaen llaw y bydd cleifion yn cael eu derbyn i’r feddygfa.

Diweddariad

Fe gafodd neges arall ei bostio’n ddiweddarach i egluro’r newidiadau.

“I wneud yn glir: mae meddygfeydd Llambed a Llanybydder ar agor fel arfer,” meddai’r neges hynny.

“Fodd bynnag, bydd gennym rwystr i fyny fel y gallwn fonitro nifer yr ymwelwyr â’r feddygfa.

“Disgwylir i chi gynnal pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd a defnyddio’r glanweithydd dwylo bob amser i leihau’r risg o haint i gleifion a staff oherwydd y nifer cynyddol o achosion cadarnhaol yn ein hardal.”