Mae chwyddiant yn y Deyrnas Unedig wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i ddegawd ym mis Awst yn dilyn cynnydd ym mhrisiau bwyd mewn bwytai a chaffis.

Daw hyn ar ôl yr ymgyrch yn ystod yr haf y llynedd i annog mwy o bobl i fynd allan i fwyta, drwy gynnig gostyngiad o 50%.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi cynyddu o 2% ym mis Gorffennaf i 3.2% ym mis Awst, sef yr uchaf ers mis Mawrth 2012 ac ymhell y tu hwnt i darged Banc Lloegr o 2%.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod y cynnydd – y mwyaf ers i gofnodion ddechrau yn 1997 – oherwydd y gostyngiadau a welwyd ar draws y sector lletygarwch ym mis Awst y llynedd o dan gynllun Bwyta Allan i Helpu Allan y Canghellor Rishi Sunak.

Y bwriad oedd rhoi hwb i wariant a hyder ar ôl y cyfnod clo.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn credu bod rhywfaint o effaith ar chwyddiant fis diwethaf yn sgil y problemau gyda’r gadwyn gyflenwi oedd wedi golygu cynnydd ym mhrisiau bwyd a diodydd.

Mae adeiladwyr hefyd yn adrodd bod cynnydd mewn prisiau deunyddiau fel sment, dur a briciau, ac fe gododd prisiau petrol i’w lefel uchaf ers mis Medi 2013.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol maen nhw’n credu y bydd y cynnydd ym mis Awst yn un dros dro ond mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai chwyddiant gyrraedd 4% erbyn diwedd y flwyddyn wrth i’r economi adfer ar ôl y pandemig.

Ychwanegodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, wedi cynyddu i 4.8% fis diwethaf.