Mae dau gyn-löwr oedd wedi goroesi trychineb pwll glo’r Gleision ym Mhontardawe

union 10 mlynedd yn ôl yn dweud eu bod nhw’n teimlo bod yr ymchwiliad i’r digwyddiad “wedi’i anghofio.”

Mewn rhaglen BBC Wales Investigates heno (nos Fercher, 15 Medi) mae Jake Wyatt a Nigel Evans, oedd wedi goroesi pan lifodd dwr i mewn i’r pwll gan ladd pedwar o’r glowyr eraill, yn trafod eu teimladau ynglŷn â’r trychineb.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, ym mhwll y Gleision ger Pontardawe, ym mis Medi 2011.

Mae teulu’r pedwar glöwr fu farw wedi dweud wrth BBC Wales Investigates eu bod nhw eisiau cwest i’w marwolaethau.

“Neb eisiau gwybod dim”

Cafwyd rheolwr y pwll glo Malcolm Fyfield a’r perchnogion, MNS Mining, yn ddieuog o gyhuddiadau o ddynladdiad yn dilyn achos yn 2014. Yn dilyn yr achos, fe benderfynodd crwner Abertawe i beidio cynnal cwest llawn i farwolaethau’r pedwar dyn.

Yn ôl Jake Wyatt mae cwestiynau i’w hateb o hyd am y digwyddiad gan ddweud: “Doedd neb eisiau gwybod dim byd am y peth ac mae wedi mynd o fod yn achos gafodd lawer o sylw i ddim o fewn cwpl o flynyddoedd.”

Mae cydberchennog y pwll, Maria Seage, hefyd yn cefnogi’r galw am gynnal cwest gan ddweud ei bod yn barod i wynebu’r canlyniadau os yw’r ymchwiliad yn profi ei bod wedi gwneud rhywbeth o’i le.

Fe fydd Trapped Underground: The Gleision Mine Disaster yn cael ei ddarlledu heno (nos Fercher, 15 Medi) ar BBC One Wales am 8pm.