Bydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar Gredyd Cynhwysol yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Medi 15).

Mae Sioned Williams, llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb y blaid, yn dweud ei bod hi’n “gwrthwynebu’n chwyrn” gynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol.

Dywed ei bod am gael sicrwydd na fydd y toriadau’n effeithio’n anghymesur ar Gymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi.

“Bwriad y cynnydd i Gredyd Cynhwysol oedd ‘cryfhau’r rhwyd ddiogelwch’,” meddai.

“Mae dileu’r £20 ychwanegol hwn ar adeg pan ragwelir y bydd costau byw’n cynyddu – beth felly i’r un o bob pum teulu sy’n hawlio hyn yng Nghymru ar hyn o bryd?

“Pe bai Credyd Cynhwysol wedi tyfu yn unol â Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y pen, byddai £40 yr wythnos yn uwch ac eto, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cael gwared ar y cynnydd o £20.”

‘Datganoli lles’

“Rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr fynd ar drywydd datganoli lles er mwyn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, ac yn y cyfamser, cynnal hyblygrwydd o amgylch y gronfa cymorth i gadw achubiaeth ar gael i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.

“Mae dileu’r codiad hwn mewn Credyd Cynhwysol nid yn unig yn gwanhau’r rhwyd ddiogelwch ar gyfer 275,000 o deuluoedd yng Nghymru – mae’n ei rhwygo oddi tanynt.”