Mae’n “syndod” gweld cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, cytundeb a “allai gael goblygiadau hirdymor”, yn ol y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud ei bod yn “bwysicach nag erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobol Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin”.

Daw’r datganiad wrth i Gymru barhau i ymdopi ag effeithiau Covid-19, yr argyfwng newid hinsawdd a’r bygthiad i ddatganoli.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am adeiladu “dyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws”.

Mae lle i gredu nad yw’r cytundeb yn gyfystyr â chlymbleidio ffurfiol, ond fod angen cefnogaeth ar y Llywodraeth i basio rhai deddfau gan nad oes ganddyn nhw fwyafrif clir.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y cytundeb yn “briodas berffaith” rhwng Llafur sydd “allan o syniadau” a Phlaid Cymru “a gafodd eu gwrthod yn y gorsafoedd pleidleisio”.

‘Di-angen’

“Byddai lot o aelodau Plaid ac, o bosib, rhai o fewn rhengoedd Llafur [yn dweud] bod hyn yn ddi-angen,” meddai Theo Davies-Lewis wrth golwg360.

“Ond rydyn ni wedi clywed Adam Price yn sôn yn ddiweddar am fwy o gydweithio, sy’n siŵr o roi sicrwydd i’r Blaid Lafur ac i Senedd Cymru gan geisio creu’r argraff nad yw Plaid Cymru yn grŵp sy’n ceisio blocio popeth.

“Ar ei ddiwrnod cyntaf yn Senedd ers dod nôl o gyfnod tadolaeth, mae hyn yn dangos uchelgais Plaid Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cael rôl flaenllaw dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n siŵr y bydd hynny’n ypsetio Andrew RT Davies a’r Ceidwadwyr.”

Mark Drakeford ac Adam Price

Eisoes mae gan Lafur 30 o seddi ar lawr y Siambr, sef hanner y Senedd gyfan, sy’n codi’r cwestiwn a oes angen y cytundeb hwn?

“I ryw raddau, does dim angen hyn ond mae’n helpu Mark Drakeford,” meddai Theo Davies-Lewis.

“Yn hanesyddol, rydyn ni wedi gweld y ddwy blaid yn cydweithio o’r blaen o fewn clymblaid, pleidleisio ar bolisïau hefyd.

“Mae hyn ychydig yn fwy swyddogol.”

A yw hyn yn awgrymu bod Mark Drakeford yn cael ei arwain gan Adam Price?

“Dydw i ddim yn rhagweld hynny ond mae’n rhywbeth sy’n dangos bod Llafur a Phlaid Cymru yn gallu cydweithio â’i gilydd fel bloc cryf yn erbyn y Ceidwadwyr.

“Mae yna dir canol amlwg rhwng y ddau.” 

Effaith hirdymor 

Er bod yr etholiad nesaf flynyddoedd i ffwrdd, a yw’n bosib y gallai penderfyniadau fel yr un yma fod yn gysgod dros Blaid Cymru mewn etholiad?

“Mae’n anodd iawn i weld y gwahaniaeth rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o ran polisïau,” meddai.

“Efallai na fydd y cytundeb hwn yn un mawr, ond fe all hyn gael effaith ar Adam Price mewn etholiad.

“Mae’n anodd dweud faint o niwed all hyn achosi i Blaid Cymru yn yr hirdymor heb inni weld manylion y cytundeb hwn.

“Gall cytundeb fel hwn fod yn beryglus erbyn yr etholiad nesaf, gyda phobol yn gweld y cytundeb hwn ddim yn helpu Adam Price os bydd pobol yn dweud ei fod e wedi bod yr un fath â’r Blaid Lafur.

“Bydd y Ceidwadwyr nawr yn pwysleisio fod Mark Drakeford yn byped i Adam Price, ond ni fydd hynny’n wir wrth gwrs.”

Effaith ehangach

Dydy Theo Davies-Lewis ddim yn rhagweld y bydd cytundeb o’r fath yn cael dylanwad ar y Blaid Lafur yn San Steffan.

“Mae dwy Blaid yn Llundain a Chaerdydd yn wahanol,” meddai.

“Nid yw Plaid Cymru yn San Steffan yn gallu cael dylanwad ar y Blaid yn San Steffan oherwydd y niferoedd.

“Wrth gwrs mae Mark Drakeford am ddiogelu ei le fel Prif Weinidog a hefyd, mae’n bwysig i Adam Price fel cyfle i wthio rhai o’i bolisïau fe.”

Siambr y Cynulliad

Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru am gydweithio ar “ddiddordebau cyffredin”

Cyhoeddi datganiad wrth i Gymru barhau i ymdopi ag effeithiau Covid-19