“Mae angen gwaith caib a rhaw i gael pobol i ddallt pwysigrwydd yr iaith Gymraeg” ac mae gan y cwricwlwm hanes “ran allweddol” yn hynny, meddai Dyfodol i’r Iaith.
Yn ôl Ruth Richards, Prif Weithredwr y mudiad iaith, mae angen un corff safonol o wybodaeth am Hanes Cymru yn y cwricwlwm.
Byddai hynny yn un ffordd o godi ymwybyddiaeth iaith, sy’n allweddol i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai.
Mae yna le i ddysgu am hanes lleol yn y cwricwlwm newydd – ond ysgolion unigol fydd â’r dewis.
“Codi ymwybyddiaeth”
“Mae yna ymgyrchu brwd wedi bod i gael corff o wybodaeth safonol am Hanes Cymru o fewn y cwricwlwm cenedlaethol [newydd], mae hwn wedi cael ei wrthod,” meddai Ruth Richards wrth golwg360.
“Mae yna, wrth gwrs, le i ddysgu am hanes lleol ac yn y blaen – ond mae hwnnw i fyny i’r ysgol unigol.
“Ein dadl ni fel mudiad ydi y dylai fod yna gorff safonol o wybodaeth am Hanes Cymru yn y cwricwlwm, a’r rheswm dros hynna ydi pwysigrwydd… o’n safbwynt ni rydyn ni’n credu y bysa hynny yn ei hun yn un ffordd o godi ymwybyddiaeth iaith sy’n gwbl allweddol i brosiect Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
“Mae angen gwaith caib a rhaw i gael pobol i ddallt pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ac wedyn does bosib bod cwricwlwm hanes [mewn ysgolion] gyda rhan allweddol i’w chwarae yn y broses yna.”
Cyd-destun
Bydd hanes pobol ddu a phobol o liw nad ydyn nhw’n ddu yn cael ei ddysgu fel rhan o’r cwricwlwm, ac mae hynny i’w groesawu, meddai Ruth Richards.
Dyw hanesion ddim yn bodoli mewn gwagle, ac felly mae angen cyd-destun ehangach er mwyn rhoi ystyr iddyn nhw, meddai.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, yn gywir, yr angen i ddysgu am hanes bobol ddu a phobol o liw yng Nghymru, a chyfraniad y bobol hynny at hanes Cymru – sydd i’w groesawu.
“Ond mae o’n beth rhyfedd, os sôn am bobol ddu yng Nghymru, mae angen cyd-destun i hynna ddod â gwir ystyr.
“Mae o’n rhan o bictiwr ehangach. Y mwyaf eang ydi hynna, yna’r cyfoethocaf ydi ein hanes ni.
“Nid mater o ‘un ai neu’ ydi hi, mae yna gyfle yma i gyflwyno hanes mewn modd llawer iawn cyfoethocach.”
Mae Dyfodol i’r Iaith yn credu bod yna “le ymarferol” i roi hanes y Gymraeg fel rhan o’r darlun cynhwysfawr ar y cwricwlwm.
“Sawl lefel”
Mae yna sawl ffordd arall o hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r cwricwlwm, meddai Ruth Richards, gan gynnwys drwy bynciau gwahanol.
“Mae o’n ddarlun cymhleth iawn, ac mae angen mynd i’r afael â hynna ar sawl lefel,” eglurodd.
“Mi fysa [ymwybyddiaeth iaith] hefyd yn dod mewn mewn dosbarthiadau ar ddinasyddiaeth, a hefyd fel rhan o hyfforddiant cyflogwyr, yn enwedig y sector gyhoeddus lle mae yna ofynion statudol yna’n barod.
“Fysa ni’n pwyso hefyd am fwy o wersi Cymraeg, ac mi fysa ymwybyddiaeth iaith unwaith eto’n rhoi cyd-destun i hynna fel bod pobol ddim yn holi pam rydyn ni’n gwneud hyn, a bod y buddion cynhwysfawr yn cael eu cyflwyno.”