Bydd cannoedd o bobl nad ydynt yn medru ymolchi, gwisgo a bwyta drostynt eu hunain yn debyg o ddioddef oherwydd prinder staff gofal.
Yn dilyn pandemig Covid-19, mae sawl sir yn cael trafferthion i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n gyfrifol am roi cymorth i bobl sydd ag anawsterau i wneud pethau sylfaenol.
Mae’r sefyllfa cynddrwg fel bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gorfod gwneud newidiadau i becynnau presennol eu cleientiaid.
Mae’r prinder staff hefyd yn golygu bod sawl person yn gorfod aros yn hirach na’r disgwyl mewn ysbytai i gael dychwelyd gartref neu i gartref gogal gan eu bod nhw’n methu cael pecynnau gofal cymdeithasol.
Nawr mae’r cyngor wedi cymeryd y cam anerferol o ofyn i deuluoedd fod “yn hyblyg” wrth wneud ceisiadau am becynnau gofal – a hyd yn oed galw ar deuluoedd i gymryd dyletswyddau gofal.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae o gwmpas 400 o bobl yn dibynnu ar staff gofal cymdeithasol y Cyngor, tra bod o gwmpas 700 o bobl yn dibynnu ar rai allanol.
Anawsterau
Dywedodd Jane Tremlett, Aelod Cabinet y cyngor dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bod oedi a newidiadau yn debygol o effeithio ar y rheiny sy’n derbyn gofal cymdeithasol.
“Fel eraill, rydym yn cael anawsterau mewn perthynas â’n gweithlu gofal cymdeithasol sy’n cael effaith ar bobl sydd angen ein cymorth,” meddai.
“Rydym yn bod yn onest am y sefyllfa fel bod pobl yn ymwybodol o’r heriau ac yn gallu gwneud penderfyniadau am newidiadau dros dro efallai y byddwn yn gofyn i bobol gytuno iddynt fel rhan o becyn gofal presennol neu becyn gofal newydd.
“Ein gofalwyr yw seren ddisglair ein gwasanaeth – maent yn gwneud gwaith gwych yn gofalu am bobl gyda gofal a thosturi a hoffwn ddiolch i’n gweithlu am ei ymrwymiad parhaus yn ystod cyfnod heriol iawn.”
“Cystal ag aur”
Mae sawl un wedi eu heffeithio gan y newidiadau yn y system – yn cynnwys Geoff Mabbett – sydd yn methu sefyll yn sgil strôc.
Mae Geoff yn dibynnu ar ddau ofalwr cymdeithasol o Gyngor Sir Gâr, yn ogystal â’i wraig, Christine.
Dywedodd Christine Mabbett bod y gofalwyr fel arfer yn trio dod tua’r un amseroedd bob dydd.
Hefyd, mae hi’n nodi bod hi’n gallu cael rhywfaint o seibiant bob blwyddyn pan mae ei gŵr yn mynd i gartref gofal.
“Allwn i byth ymdopi hebddyn nhw,” meddai.
“Bydden ni’n hollol sownd.
“Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael gofalwyr gwahanol, ond does dim ots – maen nhw cystal ag aur.”
Mae gan y cwpl o Lanelli bedwar o blant, gyda dau ohonyn nhw’n byw yn weddol gyfagos.
Mae elusen Crossroads hefyd yn darparu gwirfoddolwyr i eistedd gyda Mr Mabbett am 12 awr yr wythnos.