Mae criwiau’n dal i fod ar safle canolfan ailgylchu yn Sir Caerffili yn dilyn tân yno ddydd Mercher (1 Medi).

Yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae tri peiriant a sawl tanc dŵr wedi eu hanfon i’r digwyddiad ar Stad Ddiwydiannol Penallta.

Ail-gynnau

Mae 50 o ddiffoddwyr wedi mynychu’r digwyddiad, gan bod tua 200 tunnell o fetel ar dân.

Erbyn hyn mae’r tân yn SL Recycling dan reolaeth, ond bydd diffoddwyr yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau nad yw’r fflamau’n ailgynnau.

Mae’r gwasanaeth tân yn parhau i annog trigolion lleol i gadw eu drysau a ffenestri ynghau am y tro oherwydd y mwg sydd yn yr ardal.