Mae cam-drin rhywiol yn erbyn plant yn digwydd mewn nifer o sefydliadau crefyddol, yn ôl adroddiad newydd.

Daeth yr adroddiad gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhywiol yn erbyn Plant (IICSA) i’r canfyddiad nad oes gan rai crefyddau a lleoliadu unrhyw bolisïau i amddiffyn plant chwaith.

Roedd diwylliant o feio’r dioddefwr, diffyg trafodaeth am ryw a rhywioldeb, ac arweinwyr crefyddol yn camddefnyddio eu pŵer ymysg y “methiannau syfrdanol”.

Fe wnaeth yr adroddiad ar Amddiffyn Plant mewn Mudiadau a Lleoliadau Crefyddol archwilio tystiolaeth o 38 mudiad crefyddol sydd gan bresenoldeb yn Lloegr a Chymru.

Roedd y rhain yn cynnwys y Bedyddwyr, Methodistiaid, Islam, Tystion Jehova, Iddewiaeth, Sikhiaeth, Hindŵaeth, Bwdhaeth, a nifer o enwadau Cristnogol anghydffurfiol.

Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei seilio ar 16 diwrnod o wrandawiadau cyhoeddus a gafodd eu cynnal ym Mawrth, Mai ac Awst y llynedd, mae’n debyg bod yna dan-adrodd sylweddol am gam-drin rhywiol yn erbyn plant mewn lleoliadau a mudiadau crefyddol.

Canfyddiadau

Mae’r adroddiad yn nodi mai’r hyn sy’n gwneud mudiadau crefyddol yn wahanol i sefydliadau eraill yw’r “pwrpas amlwg sydd ganddyn nhw i ddysgu beth sy’n gywir ac anghywir; mae ysgelerder moesol unrhyw fethiant ganddyn nhw i atal, neu ymateb, i gam-drin rhywiol yn erbyn plant felly’n cael ei ddwysau”.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod yna “wahaniaeth sylweddol” rhwng mudiadau crefyddol o ran a oes ganddyn nhw bolisïau digonol i amddiffyn plant a’r graddau y maen nhw’n cael eu dilyn.

“Mae credinwyr crefyddol yn gallu ei chael hi’n anodd derbyn bod aelodau o’u cynulleidfa neu arweinwyr crefyddol yn gallu cam-drin,” meddai’r adroddiad.

“O ganlyniad, mae rhai’n ystyried nad oes angen cael camau penodol i amddiffyn plant na chadw atyn nhw’n dynn.”

Roedd yr adroddiad yn crybwyll un ferch ddeuddeg oed a gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan wirfoddolwr yn ei heglwys.

Ar ôl dweud wrth ei mam, aeth y mater at yr heddlu. Yn dilyn yr honiadau, dywedodd gweinidog wrth ei mam fod y gwirfoddolwr yn “werthfawr” a rhaid ei ystyried yn “ddieuog nes profir yn wahanol”.

Daeth i’r amlwg wedyn fod y gwirfoddolwr wedi’i ddiswyddo o’r heddlu ar ôl cael ei gyhuddo am gael rhyw gyda phlentyn.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnig dau argymhelliad, sef y dylai pob mudiad crefyddol gael polisi amddiffyn plant a chamau i gefnogi hynny, ac y dylai’r Llywodraeth ddeddfu er mwyn diwygio ystyr ‘addysg lawn-amser’ i gynnwys unrhyw leoliad lle mae plentyn yn cael ei y rhan fwyaf o’i addysg.

Dylai cyrff arolygu ysgolion gael pwerau i archwilio cyflwr amddiffyn plant wrth arolygu ysgolion sydd heb eu cofrestru, meddai.

“Mae mudiadau crefyddol yn cael eu diffinio gan eu pwrpas moesol i ddysgu beth sy’n gywir ac anghywir a gwarchod y diniwed a’r dieuog,” meddai’r Athro Alexis Jay, Cadeirydd yr Ymchwiliad.

“Fodd bynnag pan wnaethon ni glywed am fethiannau syfrdanol i atal ac ymateb i gam-drin rhywiol yn erbyn plant ar draws bron pob un o’r prif grefyddau, daeth yn amlwg fod nifer yn gweithredu’n groes i’r genhadaeth hon.

“Mae beio dioddefwyr, ofnau am ddifrodi eu henwau dau ac annog pobol i beidio ag adrodd am ddigwyddiadau yn rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu dioddefwyr a goroeswyr, yn ogystal ag awgrymiadau clir bod mudiadau crefyddol yn blaenoriaethu eu henwau da uwchben popeth arall.”

“Pwysigrwydd addysg”

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Mwslemaidd Prydain fod yr adroddiad “yn anodd ei ddarllen ac yn tanlinellu pwysigrwydd addysg sy’n pwysleisio lleisiant plant”.

“Mae amddiffyn plant yn rhan o’n traddodiadau crefyddol, a dylai fod wrth wraidd pob sefydliad Mwslemaidd.

“Mae hyn yn cynnwys polisïau diogelu plant a hyfforddiant cyson parhaus.”

“Dim esgus”

Dywedodd Ysgrifennydd Pwyllgor yr Eglwys Fethodistaidd, y Parchedig Dr Jonathan Hustler, fod yr eglwys yn ddiolchgar i oroeswyr a dioddefwyr am eu “dewrder” wrth gymryd rhan yn yr Ymchwiliad.

“Ni ellir byth â bod esgus am fethiannau wrth ddiogelu, ac mae’n gyfrifoldeb i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys Fethodistaidd i gynnal y safonau uchaf er mwyn amddiffyn plant a phobol sy’n agored i niwed.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n derbyn canlyniadau’r adroddiad.

“Annerbyniol”

Dywedodd Richard Scorer, cyfreithiwr arbenigol gyda Slater & Gordon sy’n cynrychioli saith grŵp o ddioddefwyr a goroeswyr a oedd yn rhan o’r Ymchwiliad, fod yr adroddiad yn “cadarnhau bod rhai grwpiau crefyddol wedi methu’n drychinebus wrth amddiffyn plant yn eu gofal a bod nifer o’r polisïau a’r gefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth yn ddarniog neu ddim yn bodoli”.

“Mae hyn yn annerbyniol, yn syml. Mae’n glir o’r adroddiad fod gormod o fudiadau crefyddol yn parhau i flaenoriaethu gwarchod enw da ac awdurdod arweinwyr crefyddol, a’u hamddiffyn, cyn hawliau plant.”