Mae aelod blaenllaw o Blaid Genedlaethol yr Alban wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “ymosod yn systemig” ar ddatganoli.

Honnodd Angus Robertson, yr Ysgrifennydd ar Gyfansoddiad yr Alban, bod gweinidogion San Steffan yn ceisio “cymryd rheolaeth yn ôl” ar bwerau datganoledig drwy Brexit a Mesur y Farchnad Fewnol.

Honnodd bod polisïau a chynlluniau gwario ôl-Brexit yn cael eu defnyddio i geisio lleihau pwerau a chyfrifoldebau Llywodraeth yr Alban, a Senedd Holyrood.

Mae Robertson hefyd yn credu y bydd cyllideb ddatganoledig yr Alban yn debygol o gael ei heffeithio yn y dyfodol agos.

“Mae Llywodraeth Prydain yn ymosod yn systemig ar ddatganoli, ac yn gynyddol elyniaethus i’r cysyniad mewn gair a gweithred,” meddai Angus Robertson.

Democrataidd

“Bydd Llywodraeth yr Alban yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r Alban yn ddiogel, ac amddiffyn datganoli a’n hawliau democrataidd.

“Rydyn ni’n parhau i ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Prydain a llywodraethau datganoledig eraill mewn partneriaethau cyfartal, ond gall hynny ddim ond gweithio os yw pob plaid yn barod i barchu datganoli a bwrw ymlaen ar sail cydraddoldeb a pharch.

“Yn anffodus, does dim llawer o dystiolaeth bod San Steffan eisiau partneriaeth gyfartal, ac maen nhw’n ceisio cael rheolaeth unochrog yn lle hynny.”

Mynnodd bod gan Lywodraeth yr Alban “fandad clir” ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall.

“Mae’n gynyddol amlwg i fi bod pobl yr Alban yn wynebu dewis rhwng datganoli sydd o dan fygythiad cyson gan weithredoedd unochrog a gelyniaethus Llywodraeth Prydain, neu fel gwlad annibynnol, rhan o’r Undeb Ewropeaidd, gydag ystod lawn o bwerau sydd eu hangen i gadw’r wlad yn ddiogel,” meddai.

Cydweithio

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain bod angen i’r ddwy wlad gydweithredu â’i gilydd.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae pobl yn yr Alban eisiau gweld Llywodraeth Prydain a’r weinyddiaeth ddatganoledig yn cydweithio gyda’i gilydd i amddiffyn pobol a’u bywoliaethau,” meddai.

“Mae Llywodraeth Prydain yn benderfynol o gydraddoli’r holl wlad, yn enwedig drwy fuddsoddiad uniongyrchol yng nghymunedau’r Alban.”