Mae Aelod Ceidwadol Senedd yr Alban wedi ymddiheuro i Nicola Sturgeon, wedi iddi awgrymu yn ei herbyn nad oes croeso i Saeson ymgartrefu yn y wlad.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod wedi ei “sarhau’n fawr” gan sylw a waeddwyd gan Tess White yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog (FMQs) a honnodd nad yw’r Alban yn groesawgar i bobl o Loegr.

Mae Ms White, Aelod Ceidwadol Gogledd Ddwyrain yr Alban wedi cyfaddef i’w sylwadau “groesi’r llinell”.

Daeth y sylw gan Ms White yn dilyn cwestiwn gan Pauline McNeill, Aelod Llafur Senedd yr Alban oedd yn gofyn am ymateb Nicola Sturegon ynghylch sylwadau hiliol, gwrth-Wyddelig, rhagfarnllyd a gwrth-Gatholig a arweiniodd at dri o gefnogwyr clwb pêl-droed Rangers gael eu harestio ar eu ffordd i Ibrox ddydd Sul (Awst 29).

Fe clywyd y dynion yn canu “mae’r newyn ar ben, pam nad ydych chi’n mynd adref” sy’n gyferiadaeth hanesyddol at driniaeth Brydain o newynnu’r Gwyddelod.

Fe ddywedodd McNeill “pe bai’r termau hynny’n cael eu lleisio am unrhyw leiafrif arall, y byddai sicr yn cael ei drin yn llawer mwy difrifol.”

“Rwyf am i’r Prif Weinidog roi sicrwydd i mi y bydd Heddlu’r Alban yn ymateb i’r troseddau hyn ac wrth wneud hynny, rwy’n cynnig fy nghefnogaeth lawn i’r Prif Weinidog i weithio gyda hi a chyda phawb i sicrhau bod pob math o hiliaeth a phob math o ragfarn yn cael eu dileu yn yr Alban.”

Condemnio

Fe wnaeth Ms Sturgeon gondemnio hiliaeth gwrth-Wyddelig a rhagfarn yn erbyn Catholigion, ond ar ôl iddi ddweud bod yr Alban yn “adref” i unrhyw un sy’n ymgartrefu yn y wlad, fe dorrodd Ms White ar ei thraws o’r meinciau Ceidwadol nad oedd hynny’n berthnasol i Saeson.

Fe ymatebodd Nicola Sturgeon: “Llywydd, rwyf newydd glywed sylwad sarhaus iawn.

“Ni fyddaf fel arfer yn gwneud hyn ond rydw i wedi fy sarhau’n fawr gan y sylwad hwn.

“Hoffwn wedi’r sesiwn hwn drafod hyn gyda chi [Llywydd] a gyda’ch caniatâd chi y bydd yr aelod yn gallu adlewyrchu ar y sylwad hwnnw a’i dynnu yn ôl.

“Roedd yn sylw a fyddai wedi bod yn annerbyniol mewn unrhyw gyd-destun, ond yng nghyd-destun yr hyn yr ydym yn ei drafod ar hyn o bryd, rwy’n siomedig iawn bod unrhyw aelod o’r farn bod hynny’n beth priodol i’w ddweud,” meddai Ms Sturgeon.

“Nid oes byth esgus na chyfiawnhad dros gasineb neu ragfarn ac rwy’n condemnio hiliaeth gwrth-Wyddelig a rhagfarn gwrth-Gatholig yn ddigamsyniol.

“Rwyf o’r farn fod unrhyw un sy’n dewis byw yn yr Alban – boed yn deuluoedd neu os ydynt wedi bod yma ers cenedlaethau neu wedi dod i’r Alban yn ddiweddar iawn – mae’r Alban yn gartref iddynt.”

Gwnaeth aelodau’r siambr rhoi cymeradwyaeth i ymateb y Prif Weinidog.

Gwnaeth gylchgrawn Holyrood Magazine ddweud ar wefannau cymdeithasol: ‘Roedd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi ei “sarhau’n fawr” yn ystod #FMQ’s wrth ymateb i gwestiwn am hiliaeth a rhagfarn yn yr Alban’.

Wrth ymddiheuro am ei sylwadau fe ddywedodd Ms White: “Roedd fy sylwadau yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog  wedi croesi’r llinell a hoffwn eu tynnu’n ôl ac ymddiheuro’n ddiffuant i’r siambr a’r Prif Weinidog.”

Fe ddywedodd y Llywydd, Alison Johnstone na fyddai unrhyw weithredu pellach ar y mater.

 

 

,