Mae llawdriniaethau dewisol mewn dau ysbyty yn y gorllewin wedi’u hatal, a ward mewn ysbyty arall wedi cau oherwydd effaith Covid-19.

Ni fydd llawdriniaethau orthopedig dewisol yn cael eu cynnal yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd nag yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli am y tro.

Fe fydd un ward yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn cau i gleifion newydd ac ymwelwyr, a bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar ddwy ward arall.

Mae cyrff y Gwasanaeth Iechyd ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig yn wynebu llawer o heriau gan gynnwys effaith absenoldebau staff a hunanynysu, anawsterau wrth ryddhau cleifion sy’n ffit o’r ysbyty, a galw brys uchel, meddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ardal Hywel Dda, mae cynnydd yn y cleifion sydd â Covid-19 sy’n cael eu derbyn i’r ysbytai hefyd.

Blaenoriaethu

Mewn ymateb i’r sefyllfa, maen nhw wedi ailgyflwyno rhai mesurau dros dro, gyda’r nod o barhau i ddarparu cymaint o lawdriniaethau â phosib.

“Ar ran y Bwrdd, hoffwn yn gyntaf sicrhau ein cymunedau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â blaenoriaethu diogelwch cleifion ar yr adeg hon,” meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda.

“Rwyf eisiau bod yn glir bod ein gwasanaethau gofal brys yn parhau i fod ar agor i bobl sydd angen eu defnyddio, a bydd y mesurau rydym yn gosod yn eu lle yn helpu i sicrhau ein bod ni’n gallu gweld y cleifion hyn.

“Mae ein staff medrus a thosturiol yn defnyddio eu sgiliau i flaenoriaethu a gofalu am gleifion yn y ffordd orau posibl, ac rydym mor ddiolchgar iddynt.

Risg

“Fodd bynnag, rydym dal yng nghanol y pandemig hwn, sy’n parhau i amharu ar ein bywydau o ddydd i ddydd, ac yn anffodus un o oblygiadau hyn yw bod rhai i ni ddod â mesurau dros dro yn ôl, gan gynnwys gohirio llawdriniaethau yn y tymor byr, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu gofalu’n ddiogel am gleifion,” ychwanegodd.

“Mae’r cynnydd mewn achosion yn Hywel Dda yn dangos er nad yw derbyniadau i’r ysbyty mor uchel ag yn y gorffennol, fod COVID-19 yn parhau i fod yn risg difrifol i’n hiechyd a’n gwasanaethau iechyd.

“Rwy’n apelio at bawb i barhau i wneud eu rhan drwy aros gyda’r ymddygiadau ‘cadwch yn ddiogel’ sydd wedi’u dangos i leihau lledaenu’r firws. Heb eich help, byddwn yn gweld mwy o achosion sy’n rhoi unigolion mewn perygl a gall amharu ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng ngorllewin Cymru.”