Mae cyn-blismon wnaeth ddwyn batri car fu mewn gwrthdrawiad wedi cael ei wahardd rhag gweithio i’r heddlu.

Ddydd Sadwrn, 23 Ionawr 2021, fe wnaeth Oliver George West, a oedd yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, ymweld â gwrthdrawiad ar y ffordd o Ben-bre i Drimsaran yn Sir Gaerfyrddin tra’r oedd ar ddyletswydd.

Yno, fe wnaeth e dynnu batri’r car oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad allan o’r injan, heb ganiatâd y perchennog nag unrhyw awdurdod heddlua cyfreithlon, a mynd â’r batri adra i’w ddefnyddio ei hun.

Daeth y mater at sylw goruchwylwyr Oliver West ar 7 Chwefror, a chafodd ymchwiliad ei lansio gan Adran Safonau Proffesiynol y llu.

Ymddiswyddo

Cafodd Oliver West ei atal o’i waith ar 11 Chwefror, a’i gyhuddo o ddwyn o gerbyd a phleidiodd yn euog ar 1 Gorffennaf.

Yn Llys Ynadon Abertawe ar 30 Gorffennaf, cafodd ei ddedfrydu, a chafodd Orchymyn Cymunedol a gorchymyn i gwblhau 200 awr o waith di-dâl.

Cafodd orchymyn i dalu £85 mewn costau, a £95 mewn costau i’r dioddefwr hefyd.

Fe wnaeth Oliver West ymddiswyddo o’r llu ddiwedd Gorffennaf, a heddiw ymddangosodd o flaen Gwrandawiad Camymddwyn a oedd yn cael ei gadeirio gan Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Claire Parmenter.

Cyfaddefodd iddo gamymddwyn yn ddifrifol, a daeth y cadeirydd i’r canlyniad y byddai’r cyn-blismon wedi cael ei ddiswyddo pe bai dal yn aelod o’r llu.

O ganlyniad, bydd e’n cael ei roi ar restr waharddedig Coleg yr Heddlu a fydd yn ei atal rhag cael ei gyflogi gan yr heddlu, neu unrhyw gorff arbenigol sy’n gorfodi’r gyfraith, yn y dyfodol.