Mae Joe Biden wedi condemnio penderfyniad y Goruchaf Lys i beidio rhwystro deddf newydd sy’n gwahardd y rhan fwyaf o erthyliadau yn Texas.
Wrth eu condemnio, fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau ddweud wrth asiantaethau ffederal i wneud be allen nhw i “warchod menywod a chyflenwyr” rhag yr effaith.
Dyma’r newid mwyaf i hawliau erthylu yn yr Unol Daleithiau ers 1973, pan gafodd ei gyfreithloni ymhob talaith.
Fe wnaeth y Goruchaf Lys bleidleisio 5-4 yn erbyn caniatáu apêl brys gan gyflenwyr erthyliadau ac eraill, ond awgrymodd nad dyma fyddai’r gair olaf ac y byddai heriau cyfreithiol eraill.
“Rhaglen hurt”
Dywedodd Joe Biden y byddai ei weinyddiaeth yn lansio “ymdrech dros yr holl lywodraeth i ymateb i’r penderfyniad” ac edrych ar “ba gamau y gallai’r llywodraeth ffederal ei chymryd i sicrhau bod gan fenywod yn Texas fynediad at erthyliadau diogel a chyfreithlon”.
Dylai menywod gael eu hamddiffyn rhag “effaith rhaglen hurt Texas”, meddai.
Byddai’r deddfau newydd yn rhwystro unigolyn rhag cael erthyliad unwaith mae modd canfod curiad calon, sydd ar ôl tua chwe wythnos.
Mae’r cyfnod hwnnw cyn i ferched wybod eu bod nhw’n feichiog fel arfer, a byddai’n golygu bod tua 85% o erthyliadau yn anghyfreithlon.
Osgoi adolygiad
Mae o leiaf deuddeg talaith arall wedi trio cyflwyno cyfreithiau sy’n gwahardd erthyliadau’n gynnar ar ôl beichiogi, ond maen nhw i gyd wedi’u hatal rhag dod yn gyfreithiau.
Dywedodd mwyafrif yn y Goruchaf Lys fod y cynnig am apêl heb gyrraedd y gofynion sydd eu hangen ar gyfer atal neu arafu’r ddeddf rhag cael ei chyflwyno.
Fe wnaeth deddfwyr yn Texas ysgrifennu’r ddeddf fel ei bod hi’n osgoi adolygiad yn y llysoedd ffederal, drwy ganiatáu i ddinasyddion erlyn unrhyw un sydd ynghlwm ag erthyliadau yn llysoedd y wladwriaeth.
Mae cyfreithiau erthylu mewn taleithiau eraill yn cael eu gorfodi gan y dalaith a swyddogion lleol, gyda chosbau cyfreithiol yn bosib.
Ond mae cyfraith Texas yn caniatáu i ddinasyddion preifat erlyn cyflenwyr neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â chaniatáu erthyliadau.
Ymysg sefyllfaoedd eraill, byddai hynny’n cynnwys rhywun sy’n gyrru menyw i’r clinig i gael erthyliad. Dan y gyfraith honno, byddai unrhyw un sy’n llwyddo i erlyn rhywun arall yn llwyddiannus yn gymwys am 10,000 o ddoleri.
Texas yn ceisio gwneud erthylu’n anghyfreithlon mewn mwyafrif o achosion