Bydd y cynigion cychwynnol ar gyfer map newydd o etholaethau Seneddol Cymru’n cael eu cyhoeddi’r wythnos nesaf.
Bydd nifer Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan yn gostwng o 40 i 32 erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf, sydd i fod i gael ei gynnal yn 2024.
Yn ogystal â chyhoeddi ei gynigion ar gyfer y ffiniau newydd, bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn agor cyfnod ymgynghori wyth wythnos er mwyn i’r cyhoedd leisio eu barn ar yr etholaethau arfaethedig.
O dan y rheolau yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986, sydd wedi’i diwygio, rhaid i bob etholaeth sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr – heb law am Ynys Môn, sy’n etholaeth warchodedig.
Wrth ddatblygu cynigion, mae’r Comisiwn wedi ystyried nifer o ffactorau, yn ogystal â’r ystod statudol o etholwyr.
Roedd daearyddiaeth, fel llynnoedd, afonydd a mynyddoedd, yn ystyriaeth bwysig, ynghyd â ffiniau cyfredol fel ffiniau awdurdodau lleol a wardiau.
Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, fel hanes a diwylliant sy’n cael ei rannu rhwng ardaloedd wrth ddatblygu’r cynigion cychwynnol.
“Dibynnu ar y cyhoedd”
“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi ein cynigion cychwynnol a derbyn sylwadau’r cyhoedd arnynt,” meddai ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams.
“Byddwn yn cynnig newidiadau sylweddol oherwydd y gostyngiad yn nifer yr etholaethau yng Nghymru ac mae hynny’n meddwl y byddwn yn dibynnu ar y cyhoedd, sydd yn deall eu hardaloedd lleol yn well na unrhyw un, i anfon eu barn atom.
“Dechrau’r drafodaeth bydd ein cynigion cychwynnol am sut ddylai’r map newydd o etholaethau Cymru edrych.
“Ein bwriad yw adeiladu’r map yma gyda’n gilydd, a gwyddom gyda’ch arbenigedd chi, gallwn ddatblygu map sydd yn cyd-fynd ag amodau’r Ddeddf, ond sydd hefyd yn cyrraedd disgwyliadau pobol Cymru.”
Bydd y cynigion yn cael eu cyhoeddi ar 8 Medi.