Bydd dau gerbyd trydanol yn teithio o amgylch Cymru ganol y mis, gan adrodd straeon am gymunedau sy’n gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Bydd Taith Werdd Climate Cymru yn ymweld â nifer o brosiectau gan gynnwys fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe yng Nghastell-nedd Port Talbot, a siop hinsawdd newydd fydd yn agor yn Aberystwyth ar 18 Medi.
Yno, bydd nwyddau’n cael eu trwsio a’u gwerthu am brisiau fforddiadwy, gydag unrhyw elw’n mynd tuag at blannu coed sy’n amsugno lot o garbon deuocsid yn Kenya.
Bydd y daith yn ymweld â thirwedd llechi gogledd Gwynedd hefyd, gan edrych ar egni adnewyddadwy cymunedol a phrosiectau twristiaeth werdd sy’n cael eu cynnal yno.
Ymhlith amryw ddigwyddiad arall, bydd y daith hefyd yn cynnwys sgwrs â John Davies, Llywydd NFU Cymru, am ffermio sero-net.
“Cynrychioli lleisiau Cymru”
Mae’r daith yn rhan o wythnos werdd sy’n digwydd dros y Deyrnas Unedig rhwng 18 a 26 Medi, a gwaith Climate Cymru yn casglu lleisiau o dros Gymru ac yn gwneud siŵr eu bod nhw’n cael eu clywed gan y bobol mewn grym.
Climate Cymru yw’r ymgyrch fwyaf yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar Uwchgynhadledd yr Hinsawdd (COP26), gan weithio â 190 o bartneriaeth o nifer o sectorau.
“Mae hi’n ymgyrch bwysig i gynrychioli lleisiau Cymru yn y COP26 ym mis Tachwedd yn Glasgow,” meddai Climate Cymru.
“Bydd y lleisiau sy’n cael eu casglu dros Gymru gan Climate Cymru yn dangos i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fod Cymru eisiau gweithredu ar newid hinsawdd, a bydden nhw’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn y Senedd ym mis Hydref ar ffurf calon rew.
“Rydyn ni’n annog pobol o bob oed a chefndir yng Nghymru i ychwanegu eu llais a’r hyn maen nhw eisiau i wleidyddion ei wneud.”
Mae posib dweud eich dweud, a dod o hyd i fwy o wybodaeth am y prosiectau sy’n rhan o’r Daith Werdd, ar wefan Climate Cymru.