Bydd staff Cyngor Blaenau Gwent yn cael Nos Calan yn wyliau ychwanegol fel arwydd o ddiolch am eu gwaith caled drwy gydol y pandemig.

Mewn cyfarfod arbennig o dîm Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ddydd Mercher (1 Medi), fe gyflwynwyd adroddiad a oedd yn amlinellu cynnig a wnaed gan gynrychiolwyr undebau llafur Unsain, GMB ac Unite i gael Rhagfyr 31 yn wyliau ychwanegol i weithwyr.

“Mae’n gais syml,” meddai Ms Bernadette Elias, pennaeth llywodraethiant y cyngor.

Pwrpas y diwrnod ychwanegol yw cydnabod “gwaith caled, rhagorol ac ymroddedig” y staff sy’n ymateb i’r pandemig yn ogystal am gefnogi ein cymunedau.

Mae’r adroddiad yn ychwanegu y byddai unrhyw weithwyr sy’n gorfod gweithio ar 31 Rhagfyr y gallant gymryd y diwrnod ychwanegol i ffwrdd, “ar adeg arall”.

‘Penderfyniad hawdd’

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Nigel Daniels: “Mae’n debyg mai dyma’r penderfyniad hawsaf y byddaf yn ei wneud yn y pum mlynedd y byddaf yn arweinydd, mae hynny’n sicr.”

Esboniodd y Cynghorydd Daniels fod y cais wedi’i gytuno “yn y fan a’r lle” yn ystod y cyfarfod gyda swyddogion undebau llafur.

“Mae’n ffordd briodol o gydnabod y gwaith aruthrol y mae ein holl staff wedi’i wneud ar draws y gwasanaeth, mae eu gwaith wedi bod yn gwbl eithriadol,” meddai