Mae’r heddlu yn Seland Newydd wedi saethu “eithafwr treisgar” yn farw ar ôl iddo drywanu chwech o bobol mewn archfarchnad yn Auckland.

Disgrifiodd y Prif Weinidog Jacinda Ardern y digwyddiad fel “ymosodiad terfysgol” gan ddinesydd Sri Lankaidd oedd dan oruchwyliaeth yr heddlu yn Seland Newydd.

Cafodd y dyn, na ellir ei enwi, ei ysbrydoli gan y grŵp terfysgol Islamic State, yn ôl Jacinda Ardern.

Fe wnaeth yr heddlu ei ladd o fewn 60 eiliad i’r ymosodiad.

Digwyddodd yr ymosodiad yn archfarchnad Countdown yn ardal New Lynn o Auckland, dinas fwyaf Seland Newydd.

Yn ôl yr adroddiadau, fe wnaeth y dyn gymryd cyllell hir o gabinet arddangos cyllill yn y siop a thrywanu ac anafu chwe pherson.

“Ffiaidd”

Cyrhaeddodd y dyn Seland Newydd ym mis Hydref 2011, a daeth yn rhywun o ddiddordeb o ran diogelwch cenedlaethol yn 2016, meddai’r Prif Weinidog.

Roedd y dyn yn cael ei wylio’n agos ac yn cael ei fonitro’n gyson yn sgil pryderon am ei syniadaeth, ac roedd ar y rhestr gwylio terfysgaeth.

Cyn heddiw (3 Medi), doedd y dyn heb gyflawni unrhyw droseddau a fyddai wedi arwain at ei arestio neu ei gadw yn y ddalfa.

Pan ofynnwyd iddo am ei gymhellion, dywedodd eu bod nhw “wedi’u hysbrydoli gan ISIS”.

“Mae beth ddigwyddodd heddiw yn ffiaidd, roedd e’n atgas, roedd e’n anghywir,” meddai Jacinda Ardern mewn cynhadledd i’r Wasg.

“Unigolyn wnaeth hyn, nid ffydd.”

Ymateb “mor sydyn â phosib”

Mae cwestiynau wedi codi ynghylch pam na lwyddodd yr awdurdodau i atal y dyn cyn iddo drywanu chwe pherson.

“Y realiti yw, pan rydych chi’n goruchwylio rhywun 24/7, dyw hi ddim yn bosib bod reit wrth eu hymyl nhw drwy’r amser,” meddai Andrew Coster, Comisiynydd yr Heddlu.

“Fe wnaeth y staff ymyrryd mor sydyn â phosib, ac fe wnaethon nhw atal anafiadau pellach mewn sefyllfa frawychus.”

Mae’r awdurdodau yn hyderus bod yr ymosodwr wedi gweithredu ar ei ben ei hun, ac nad oes perygl pellach i’r gymuned, meddai Andrew Coster.