Mae dwyn anifeiliaid anwes am fod yn drosedd newydd yn ar ôl cynnydd yn nifer achosion o’r fath yn ystod cyfnodau clo Covid-19.
Ar hyn o bryd mae dwyn anifail anwes yn cael ei drin fel colli eiddo, ond mae gweinidogion eisiau cyfraith newydd i gydnabod y gofid emosiynol y gall ei achosi.
Mae’r cynnig yn un o gyfres o argymhellion mewn adroddiad gan y tasglu dwyn anifeiliaid anwes – a sefydlwyd i fynd i’r afael â chynnydd mewn digwyddiadau yn ystod y cyfnod clo.
Canfu fod tua 2,000 o gŵn wedi cael eu dwyn y llynedd.
Cafodd y tasglu – oedd yn cynnwys swyddogion y llywodraeth, yr heddlu, erlynwyr ac awdurdodau lleol – dystiolaeth gan grwpiau lles anifeiliaid, ymgyrchwyr, academyddion ac arbenigwyr eraill.
Canfu ei adroddiad fod saith o bob 10 lladrad anifeiliaid anwes a gofnodwyd gan yr heddlu yn cynnwys cŵn.
Nid yw’n glir beth fyddai’r ddedfryd uchaf ar gyfer trosedd newydd o gipio anifeiliaid anwes.
Gan ddyfynnu data gan yr elusen anifeiliaid Dogs Trust, dywedodd yr adroddiad fod y pris am bump o fridiau cŵn mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig wedi codi’n “sylweddol” yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, gyda rhai’n codi mor uchel ag 89%.
Awgrymodd y tasglu y gallai hyn wneud dwyn cŵn yn fwy deniadol i droseddwyr sy’n ceisio gwneud elw o’r cynnydd yn y galw am anifeiliaid anwes.
Roedd argymhellion y tasglu hefyd yn cynnwys:
- gofyn am wybodaeth ychwanegol wrth gofrestru microsglodyn, yn enwedig wrth drosglwyddo perchnogaeth.
- mynediad symlach i’r gwahanol gronfeydd data microsglodion sydd ar gael i’w gwneud yn haws olrhain cŵn coll neu gŵn sydd wedi’u dwyn.
- gwella’r broses o gasglu a chofnodi data ar ddwyn anifeiliaid anwes.
DNA
Edrychodd y tasglu hefyd ar fesurau megis gofyn am brawf adnabod ar gyfer pob hysbyseb anifeiliaid anwes ar-lein, a chaniatáu i berchnogion gofrestru eu cŵn gyda’r heddlu, gan gynnwys lluniau a DNA.
Mae swyddogion yn gobeithio y bydd y cynigion yn ei gwneud hi’n anoddach i ladron gipio a gwerthu anifeiliaid anwes, gan ei gwneud yn haws i’r heddlu ddal troseddwyr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel: “Mae dwyn anifail anwes yn drosedd ofnadwy sy’n gallu achosi gofid emosiynol mawr i deuluoedd tra bod troseddwyr yn gwneud elw.
“Mae’r drosedd newydd o gipio anifeiliaid anwes yn cydnabod bod anifeiliaid yn llawer mwy nag eiddo yn unig a bydd yn rhoi arf ychwanegol i’r heddlu ddod â’r unigolion hyn i gyfiawnder.”