Mae Llywodraeth Cymru yn trafod y posibilrwydd o gyflwyno tollau ar ambell i yrrwr ar rai o ffyrdd prysuraf y wlad.

Byddai’r tollau yn ymgais i leihau llygredd aer o achos traffig, fel rhan o fwriad y llywodraeth i gyrraedd targedau sero-net erbyn 2050.

Yn rhan o’r cynlluniau, mae’n bosib y byddai perchnogion ceir hyn yn gorfod talu i ddefnyddio rhannau o’r M4 a’r A470.

Mae’r llywodraeth wedi ymgynghori â’r cyhoedd i geisio cael darlun o batrymau teithio presennol, ac i holi am eu barn ar rai syniadau posib.

Daeth yr arolwg hwnnw i ben ar ddydd Mawrth, 31 Awst, ac fe dderbynion nhw dros 3,000 o ymatebion.

Syniadau

Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwyntyllu’r syniad o gyflwyno tollau ar gyfer ceir petrol sydd wedi eu cofrestru cyn 2006, a cheir diesel a gafodd eu cofrestru cyn Medi 2015.

Maen nhw wedi awgrymu agor dau dollborth yn Ionawr 2023 – un ar yr M4 yn ardal twneli Brynglas, a’r llall ar yr A470 yn ardal Pontypridd.

Roedden nhw hefyd yn cynnig opsiynau am gost y tollau, gyda gyrwyr ceir yn wynebu talu rhwng £3 a £8, tra bydd cerbydau nwyddau ysgafn efallai’n rhwng £6 a £12.50.

Gallai rhai gyrwyr cerbydau nwyddau trwm dalu hyd at £50.

“Effaith andwyol ar y bobol dlotaf”

Mae Sam Trask, Cadeirydd Ceidwadwyr Rhondda Cynon Taf, yn credu y byddai’r tollau ond yn effeithio ar y bobol dlotaf yn unig.

“Dw i’n gyrru car diesel naw oed, a pe bawn i’n gallu fforddio un, fyddwn i eisoes yn gyrru car llai llygredig,” meddai wrth y BBC.

“Yr ofn sydd gen i yw byddai codi tâl i ddefnyddio ffordd ddwywaith y dydd yn gwneud y freuddwyd honno hyd yn oed ymhellach allan o gyrraedd, a byddwn i’n llai tebygol fyth o allu fforddio car gwell.

“Dw i’n credu pe bai’r cynigion hyn yn mynd yn eu blaenau, bydden nhw’n cael effaith andwyol ar y bobol dlotaf yn ein cymdeithas oherwydd dyma’r bobol sydd methu fforddio car trydan mwy modern.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad “oes unrhyw gynlluniau ar gyfer taliadau tagfeydd” ar hyn o bryd.

“Mewn darn o waith ar wahân, yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol i leihau lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid, rydym wedi comisiynu arolygon i gael barn pobl ar gynigion Parthau Aer Glân ar yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yng Nghasnewydd ac ar yr A470 rhwng Glan-Bad a Pontypridd.”