Mae Covid a phrinder gyrwyr lorïau wedi cael eu beio am fethu â chasglu sbwriel mewn ambell sir.
Dywedodd cynghorau Ceredigion, Bro Morgannwg a Chaerdydd wrth y BBC eu bod nhw’n wynebu oedi yn barod, ac yn disgwyl y bydd mwy o oedi.
Ac mae Brexit, gyrwyr yn ymddeol a Covid wedi arwain at brinder gyrwyr lorïau, yn ôl y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd.
Yn ôl trigolion, mae gwastraff o gartrefi a gerddi wedi’u gadael ar y pafin ers wythnosau.
“Yr holl bentref yn llanast”
Mae un o drigolion Llanarth, Ceredigion yn poeni y bydd y sbwriel, sydd yn ei hôl hi wedi bod ar y pafin ers o leiaf 10 niwrnod, yn denu llygod mawr.
Dywedodd un perchennog busnes hufen iâ yng Nghei Newydd wrth y BBC mai twristiaid yn gadael eu sbwriel oedd y broblem.
“Efallai eu bod nhw’n gadael y bore wedyn a heb unman i adael y sbwriel, felly bydden nhw’n rhoi’r sbwriel yn y biniau, ac roedd y biniau yn gorlifo gyda bagiau o’u hamgylch nhw a’r gwylanod yn torri mewn iddyn nhw,” meddai Trudi Thomas o barlwr hufen iâ Creme Pen Cei.
“Roedd e’n llanast, roedd yr holl bentref yn llanast, sy’n biti achos rydyn ni’n gwybod ei fod e’n dlws iawn.”
Ymddiheuro
“Mae yna nifer o faterion sy’n gallu achosi, a chyfuno i achosi, oedi,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion wrth ymddiheuro.
“Mae’r rhain yn ymestyn o faterion sy’n effeithio ar argaeledd staff a cherbydau i’r swm a’r math o wastraff sy’n cael ei gyflwyno er mwyn ei gasglu.
“Mae Covid wedi dod â phwysau ychwanegol sy’n cynnwys cyflwyno mesurau er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo’r feirws yn lleol.”
Siroedd eraill
Mae Cyngor Powys wedi wynebu problemau hefyd, gyda gogledd y sir wedi’i heffeithio waethaf.
“Tra eu bod nhw wedi cynnal eu holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu drwy gydol y pandemig, fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o awdurdodau, mae’r prinder mewn gyrwyr ar hyn o bryd yn achosi rhai problemau sydd wedi golygu bod rhai rowndiau wedi gorfod cael eu cwblhau yn hwyrach yn yr wythnos na’r diwrnod ar yr amserlen.”
Mae prinder gyrwyr lorïau wedi cyfrannu at oedi mewn casglu gwastraff gerddi yng Nghaerdydd hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot mai “nifer fechan o broblemau” y maen nhw wedi’u cael, “er bod adnoddau gyrwyr yn benodol yn cael eu heffeithio gan Covid a salwch eraill ar y funud”.
Problemau gyda nifer gweithwyr oedd yn gyfrifol am yr oedi mewn casglu gwastraff gerddi ym Mro Morgannwg yn ystod Awst hefyd, ond dylen nhw allu dal fyny gyda’r gwaith erbyn diwedd wythnos nesaf.
Beiodd Cyngor Sir Fynwy Covid ar y straen ar y gwasanaethau casglu gwastraff, a dywedodd Cyngor Torfaen bod prinder gyrwyr lorïau wedi arwain at oedi wrth ddanfon ac archebu biniau.
Yn ôl Cyngor Conwy, mae Covid wedi ychwanegu pwysau gan fod gweithwyr wedi profi’n bositif a bod prinder gyrwyr i gymryd eu lle.
Mae Cyngor Sir Benfro hefyd wedi cael nifer o broblemau gydag adnoddau yn sgil y pandemig a phrinder gyrwyr lorïau.
Dywedodd yr holl gynghorau eraill yng Nghymru wrth y BBC nad ydyn nhw wedi gweld oedi mewn casglu gwastraff.