Mae o leiaf 58 o bobl wedi marw yn yr Unol Daleithiau yn sgil Storm Ida.

Taleithiau yng ngogledd ddwyrain y wlad sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan lifogydd.

Mae 23 o’r marwolaethau yn New Jersey, 16 yn Efrog Newydd ag 11 yn Louisiana, gyda nifer o daleithiau eraill wedi eu heffeithio.

Roedd glaw trwm yn Central Park Efrog Newydd wedi torri record 94 mlynedd, tra bod Newark, New Jersey, wedi chwalu record 62 mlynedd, meddai’r Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol.

Ida oedd y bumed storm fwyaf pwerus i daro’r wlad wrth iddi gyrraedd Louisiana ddydd Sul (29 Awst).

Fe achosodd lifogydd ac o leiaf 10 tornado, gydag un ohonynt gyda gwyntoedd yn mesur 150 milltir yr awr.

Mae difrod gwerth biliynau o ddoleri wedi ei achosi.

Mewn araith yn y Tŷ Gwyn yn Washington ddydd Iau (2 Medi), dywedodd yr Arlywydd Joe Biden:

“Mae’r stormydd eithafol yma, ac mae’r argyfwng hinsawdd yma.

“Rhaid inni fod yn fwy parod. Mae angen i ni weithredu.”