Mae oedolion ifanc yn fwy petrus nag unrhyw grŵp oedran arall ynglŷn â derbyn brechlyn Covid-19.

Yn ôl arolwg diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd 8% o bobol 16 i 29 oed yn ansicr am y brechlyn.

Ar y llaw arall, dim ond 2% o bobl dros 50 oed a 5% o bobl rhwng 30 a 49 oed oedd yn amheus.

Y prif resymau dros yr amharodrwydd ymysg oedolion ifanc oedd pryderon ynglŷn â diogelwch y brechlyn, a diffyg hyder yn y llywodraeth.

Roedd y rhai gafodd eu holi hefyd yn poeni am y sgîl-effeithiau ar eu gallu i greu plant, gyda rhai’n honni bod dim pwrpas iddyn nhw gael eu brechu gan fod y risg o ddioddef o’r firws yn llai.

Dywedodd y mwyafrif o’r cyfranwyr y bydden nhw’n awyddus i gael brechlyn yn y dyfodol ar ôl mwy o dystiolaeth o effeithiau tymor hir.

Petruster

Bu Beth Jones o swyddfa’r ONS yn tarfod yr ansicrwydd hwn ymysg pobol ifanc.

“Er bod bron pob un (96%) o oedolion dros 16 oed yn dweud eu bod yn gadarnhaol ynglŷn â brechlyn Covid-19, rydyn ni wedi gweld lleiafrif bach yn dangos mwy o betruster, gan gynnwys oedolion iau,” meddai.

“Mae’n ymddangos mai’r prif resymau am hyn yw’r ofn ynghylch sgîl-effeithiau posibl, yn y tymor byr a hir, neu’r teimlad nad ydyn nhw mewn perygl o gael eu taro’n ddifrifol wael pe bydden nhw’n dal y firws.”