Mae cwt ar draeth Abersoch sydd newydd gael ei roi ar y farchnad am £175,000  yn “adlewyrchu’r gwahaniaeth enfawr rhwng pobol gyffredin a phobol wir gyfoethog”.

Yn ôl y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, sy’n cynrychioli Abersoch ar Gyngor Gwynedd, mae prisiau’r cytiau glan môr wedi bod yn codi ers pum mlynedd a mwy, ac mae’n “drist” bod rhai pobol methu hyd yn oed fforddio cartref o fewn eu cymuned.

Mae Dewi Wyn Roberts yn amau bod y cynnydd mewn pobol yn mynd ar eu gwyliau ym Mhrydain yn sgil y pandemig wedi cyfrannu at godi’r prisiau hefyd.

Pe bai’r cwt glan môr yn cael ei werthu am £175,000, neu fwy, byddai’n gosod record newydd gan gipio’r record oddi ar gwt arall gafodd ei werthu yn Abersoch am £160,000 yn 2017.

Mae’r cwt 10.5 troedfedd x 13.5 troedfedd yn costio mwy na phris cyfartalog tŷ pâr, a does dim trydan na dŵr ynddo.

“Balans”

“Mae’n amlwg fod y galw yna am y meth yna o adeilad,” meddai’r Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, sy’n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod o’n adlewyrchu prisiau tai yn Abersoch a’r ardal, erbyn hyn mae’n ehangach nag Abersoch… mewn llefydd tebyg fel Aberdyfi, Nefyn, Morfa Nefyn. Mae’r cytiau yma’n mynd yn fwy a mwy poblogaidd.

“Mae’n debyg, oherwydd be rydyn ni wedi bod drwyddo, mae rhai pobol rŵan yn meddwl mwy am gael gwyliau ym Mhrydain yn y dyfodol. Ac mae rhai o’r rheiny’n mynd i fod yn bobol gyfoethog, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu mewn prisiau tai yma.

“Mae yna batrwm yma ar hyn o bryd o ddymchwel tai go-neis a chodi tai modern, mawr sydd werth miliynau o bunnau.

“Y broblem sydd gen i ar hyn o bryd… dw i’n cysylltu gydag adran dai’r Cyngor, a dw i wedi bod mewn cyswllt gyda chymdeithasau tai sy’n gweithredu yn yr ardal, er mwyn trio cael cartrefi i bobol leol.

“Mae o’n falans dydi – mae yna lot o sôn am yr economi a thwristiaeth, sydd yn wir bwysig.

“Ond beth am y bobol sy’n gorfod byw efo’r llif o bobol sy’n dod mewn ac allan? Os ydyn ni’n mynd i barhau i gael y llif o bobol yma, mae eisio gwneud yn saff bod gennym ni’r adnoddau i warchod yr ardal.”

“Adlewyrchu’r gwahaniaeth enfawr”

Mae’r prisiau cytiau lan môr wedi bod yn codi ers tua phum mlynedd, a chyn hynny, meddai Dewi Wyn Roberts.

“Be sy’n drist ydi, mae yna rai pobol oddi fewn i’n cymdeithas ni ddim ddigon ffodus i allu fforddio cwt £175,000. Mae yna bobol yn cysylltu efo fi eisio cartrefi, ac eisio cartrefu eu hunain o fewn y gymuned,” eglura.

“Mae o’n drist i rai pobol weld bod yna gwt yn mynd am [£175,000}, a does ganddyn nhw byth mo’r siawns o brynu tŷ yn yr ardal.”

Mae’r farchnad ei hun yn gyrru pris y cwt i fyny, meddai.

“Mae lot o’r cytiau yma yn estyniad, os lici di, o’r tŷ yn Abersoch.”

Does gan bobol ddim hawl i fyw yn y cytiau lan môr, ac maen nhw yno ar gyfer pwrpas adloniant ac yn cael eu defnyddio gan bobol pan maen nhw ar y traeth.

“Does yna ddim byd fedra i ei wneud, y farchnad sy’n ei yrru fo yn ei flaen, ond mae o ella’n adlewyrchu’r gwahaniaeth enfawr rhwng y bobol gyffredin a’r bobol wir gyfoethog,” ychwanegodd Dewi Wyn Roberts.

“Dw i’n meddwl bod eisio cofio am bobol ifanc sydd ar eu gyrfa.

“Mae o ynghlwm â hynny, bod pobol efo cyfoeth mawr yn dod mewn. Mae eisio taro balans yn rhywle.”

“Gweddu’r amgylchedd”

Ychwanegodd Dewi Wyn Roberts bod angen i’r cytiau fod yn addas i’r traeth.

“Beth sy’n bwysig dw i’n meddwl, ydi bod y cytiau yn cadw o fewn maint sy’n adlewyrchu be mae rhywun yn ei ddisgwyl ar y traeth,” meddai.

“Wrth gwrs, mae rhywun yn prynu rhywbeth fel yna ac yn disgwyl ei ddatblygu fo i fod yn rhywbeth gwahanol.

“Mae cadw nhw i fod yn edrych yn addas ac yn gweddu’r amgylchedd a’r ardal yn bwysig.”

Marchnad dai Gwynedd ymysg y rhai sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig

Nifer yr arolygiadau tai – sy’n cael eu gwneud cyn i ddarpar brynwr brynu tŷ – wedi cynyddu 394.37% yng Ngwynedd ers 2020, yn ôl data Property Inspect

Pobol leol am gynnal ail orymdaith o Lŷn i Gaernarfon i alw am weithredu ar ail gartrefi

“Ychydig iawn” sydd wedi’i gyflawni ers i drigolion ac aelodau Cyngor Tref Nefyn wneud y daith llynedd, meddai’r mudiad Hawl i Fyw Adra