Bydd Senedd Cymru yn cael ei gohirio ar ddiwrnod marwolaeth Brenhines Lloegr, yn ôl dogfennau swyddogol sydd wedi eu datgelu gan wefan newyddion POLITICO.

Ac mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a’r Frenhines wedi cytuno y bydd diwrnod ei hangladd yn “Ddiwrnod o Alaru Cenedlaethol”.

Ni fydd gŵyl banc ychwanegol yn cael ei ganiatáu os bydd yr angladd yn digwydd ar benwythnos, neu adeg gŵyl banc sy’n bodoli eisoes.

Ac nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu gorchymyn i gyflogwyr roi diwrnod o wyliau i weithwyr os bydd yr angladd yn digwydd yn ystod yr wythnos.

Bydd yn fater rhwng gweithwyr a’u staff, yn ôl y dogfennau ar wefan POLITICO.

Mae’r dogfennau hefyd yn datgelu mai Cymru fydd y wlad olaf y bydd y Brenin Charles – fel y bydd o bryd hynny – yn ymweld â hi pan fydd y Frenhines wedi marw.

Yn ôl y cynllun, sydd wedi cael ei alw yn ‘Ymgyrch LONDON BRIDGE’, bydd y Brenin Charles yn cychwyn ar daith o amgylch gwledydd y Deyrnas Unedig yn y dyddiau cyn yr angladd.

Bydd Charles, sydd â’r teitl Tywysog Cymru ar hyn o bryd, yn ymweld â Chymru ar ôl iddo dreulio amser yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ar ddiwrnod marwolaeth y Frenhines, y cyfeirir ato’n fewnol fel “D-Day”, bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyfarfod gyda’r brenin newydd.

Ar ôl hynny bydd y Brenin Charles yn annerch gwledydd Prydain.

Ac ar yr un pryd bydd gwasanaeth coffa yng Nghadeirlan Sant Paul yng nghanol Llundain.