Mae cyngor yn y canolbarth wedi gwario miloedd o bunnau er mwyn cael ‘traeth’ yn nhref Llandrindod gydol y flwyddyn, boed law neu hindda.

Fe lwyddodd Cyngor Powys i ddenu £10,000 o Gronfa Datblygu Plant Llywodraeth Cymru er mwyn agor pwll tywod mawr ar gyfer plant a theuluoedd.

Prosiect HAF Llandrindod oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r adnodd, tra bydd tŷ cychod Glan y Llyn yn gyfrifol am gynnal a chadw’r pwll yn y dyfodol.

Mwynhau

Cafodd y pwll tywod newydd ym Mharc y Llyn ei agor ddechrau mis Awst, ac mae eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

“Mae’r pwll tywod newydd yn gaffaeliad anhygoel i’n tref fach,” meddai mam leol, Karlene.

“Mae fy nau blentyn bach wrth eu bodd â fe, ac ni allant aros i gael tynnu eu hesgidiau a neidio i mewn.

“Rydyn ni’n gallu mwynhau ychydig o amser chwarae hamddenol gyda theuluoedd eraill.”

Adnodd cadarnhaol

Dywedodd Rachel Powell, aelod o’r Cabinet dros Bobl Ifanc a Diwylliant, bod datblygu’r pwll newydd yn “adnodd mor gadarnhaol” i Landrindod, cymunedau cyfagos ac ymwelwyr.

“Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o blant ifanc a theuluoedd yn mwynhau’r pwll tywod newydd hwn,” meddai.

“Yn dilyn effeithiau cythryblus Covid-19, mae’r cyfleuster newydd hwn wedi atgyfnerthu’r prif leoliad ar lan y llyn fel lle delfrydol sy’n pontio’r cenedlaethau.

“Mae’n llecyn addas i bob oedran, gydag adnoddau awyr agored y mae llawer wedi’u mwynhau’r haf hwn.

“Hoffwn ddiolch i HAF Llandrindod, Tŷ Cwch Glan y Llyn a Swyddog Hamdden Awyr Agored y cyngor am fynd ati ar y cyd i sefydlu’r atyniad poblogaidd hwn.

“Mae’n enghraifft wych o gydweithio sydd o fudd mawr i blant a theuluoedd.”