Mae’r pandemig wedi dwysáu’r galw am wlâu diwedd oes yn y gymuned, meddai un cynghorydd yng Ngwynedd.
Yn ogystal â’r rhwystrau lleol sy’n cael eu hachosi yn ardal Blaenau Ffestiniog drwy beidio â chael gwlâu diwedd oes yn y gymuned, mae’r diffyg adnoddau yn effeithio ar gapasiti gwlâu mewn ysbytai eraill, meddai’r Cynghorydd Annwen Daniels.
Yn ôl Annwen Daniels, cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog, mae’r ffaith nad oes cyfleusterau lleol yn ychwanegu at y pwysau ar ysbytai’r bwrdd iechyd.
“Ddim yn opsiwn”
Er gwaethaf protestiadau, cafwyd gwared ar yr holl wlâu yn Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog yn 2013, a chafodd canolfan iechyd newydd ei hadeiladu ar safle’r ysbyty goffa ychydig o flynyddoedd wedyn.
Mae’r ysbyty agosaf yn Nhremadog, tua hanner awr i ffwrdd, a’r hosbis agosaf yn Llandudno, bron i awr i ffwrdd, a dydi hi “ddim yn opsiwn” i nifer o bobol deithio yno i weld anwyliaid.
“Mae [gwlâu diwedd oes] yn rhywbeth sydd wedi cael ei alw amdano ers talwm, ers i’r ysbyty gau,” esboniodd Annwen Daniels wrth golwg360.
“Roedd popeth wedi distewi cyn Covid, ond yn ystod Covid roedden ni fwy o angen rhywbeth yn nes at adra.
“Doedd cymaint o bobol ddim yn cael mynd ar y bysus, a phobol fregus, pobol yn eu hoed â’u hamser, doedden nhw methu mynd allan, roedden nhw’n gorfod shieldio, doedden nhw methu gwasgu ar fys neu fysa nhw’n fwy liable i ddal Covid.
“Y rhwystrau yna, ar ben gorfod teithio am awr neu hanner awr beth bynnag, dydi o ddim yn opsiwn i rai.
“Dw i’n teimlo weithiau bod Blaenau yn cael ei hanghofio, mae hi’r drydedd dref fwyaf yng Ngwynedd.
“Pam bod hi’n cael ei hanghofio? Maen nhw’n mynd â resources oddi yma, a ddim yn rhoi dim byd yn eu lle nhw.
“Mae hi’n amser iddyn nhw ddechrau trin pobol Blaenau fel mae pobol Gaernarfon, Port, a phobman arall yn cael eu trin.”
“Pobol Blaenau yn cael eu hanghofio”
Mae diffyg gwlâu diwedd oes yn lleol yn effeithio ar ysbytai eraill, meddai Annwen Daniels, gan fod gan bobol unman i fynd wrth adael yr ysbyty os ydyn nhw angen gofal 24/7, ond ddim angen gofal ysbyty.
“Ysbyty ydi Alltwen ar ddiwedd y gân yna, os ydi rhywun angen y gofal 24/7 yna… lle arall maen nhw am fynd?” meddai.
“Maen nhw’n blocio gwlâu yn fan yna wedyn i bobol sydd newydd gael operation, ac angen gwely yn rhywle ac eisio bod yn agosach at adra.
“Efallai eu bod nhw ddim yn gallu [symud nhw yno], a’u bod nhw’n gorfod aros yn Ysbyty Gwynedd ac yn blocio gwlâu yn fan yna.
“Mae o fatha domino effect, dydi.
“Tasa gennym ni rywle purpose built i edrych ar ôl respite a phobol sy’n dod at ddiwedd eu hoes yn nes at le rydyn ni…
“Dw i jyst yn teimlo bod pobol Blaenau yn cael eu hanghofio, mae wir angen mwy o feddwl am y pethau mae Blaenau wedi’u colli a does yna ddim byd wedi cael eu rhoi yn eu lle nhw.”
“Tegwch i’n trigolion lleol”
Pwysleisiodd Annwen Daniels fod y gwasanaeth gofal yn y cartref yn arbennig, ond nad yw hynny’n opsiwn i bawb.
“Mae’r home help yn dda, ac maen nhw’n ffantastig am be maen nhw’n ei wneud, dw i wedi gweld rhai ohonyn nhw’n mynd mewn pan mae rhywun yn dod i ddiwedd ei oes,” ychwanegodd.
“Ond dydi’r opsiwn yna ddim gan rai pobol, maen nhw’n gorfod cael y gofal meddygol yna hefyd.
“Dw i ddim yn lladd ar y nyrsys, dw i’n meddwl eu bod nhw’n ffantastig, a bysa yna andros o le hebddyn nhw.
“Be sydd ei angen ydi mwy o wasanaeth yn Blaenau, dim llai.
“Tegwch i’n trigolion lleol – dyna dw i’n alw amdano. Ac wedi oes o waith a mwynhad, y peth lleiaf allwn ni gynnig i’n hanwyliaid yw’r parch iddyn nhw gael gwely mewn hosbis yma yn eu milltir sgwâr, pe baen nhw ei angen.”