Mae Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion, wedi galw ar Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ailystyried eu cynlluniau i leihau’r nifer o ambiwlansys yn y sir.
Ar hyn o bryd, mae yna bedair gorsaf Ambiwlans sy’n cael eu staffio 24/7 yng Ngheredigion.
Yn Aberystwyth ac Aberteifi, mae yna ddau griw yr un yn ystod y dydd ac un criw yn y nos, ac yna yng Nghei Newydd a Llanbedr Pont Steffan mae yna un criw yn ystod y dydd ac un yn y nos.
Fodd bynnag, mae Elin Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, wedi cael ar ddeall bod gan yr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymreig gynlluniau i ddwyn ymaith un ambiwlans yr un o Aberystwyth ac Aberteifi yn ystod y dydd.
Mae’r cynlluniau hefyd ar y gweill i beidio â chynnig Gwasanaeth Gofal Brys y tu allan i oriau dyddiau gwaith, mae’n debyg.
“Cwbl annerbyniol”
Mae Elin Jones wrthi’n trefnu cyfarfod gyda Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gymreig, er mwyn cael eglurdeb ar y sefyllfa ac i danlinellu sut y byddai’r cynlluniau arfaethedig yn peryglu bywydau ac yn cynyddu llwyth gwaith parafeddygon Ceredigion.
“Rwy’n bryderus iawn i glywed bod yna gynigion ar hyn o bryd i leihau nifer yr ambiwlansys yng Ngheredigion, yn benodol i leihau nifer y rhai sy’n weithredol yn ystod y dydd i ddau, gan adael Aberystwyth ac Aberteifi gydag un yr un yn ystod y dydd,” meddai Elin Jones, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Geredigion.
“Rwy’ hefyd ar ddeall na fydd Gwasanaeth Gofal Brys ar gael mwyach y tu allan i oriau gwaith dyddiol.
“Dros yr haf, rwyf wedi clywed profiadau gan etholwyr sydd wedi gorfod aros oriau ar gyfer Ambiwlans. Mae gan bawb glod am waith y parafeddygon, ond mae’r amseroedd aros yn beryglus o hir eisoes. Os oes toriad pellach o dros 30% yng ngallu’r Ambiwlansys i weithredu yng Ngheredigion, yna fe fydd effaith dirywiol eto fyth ar amseroedd aros ar gyfer ambiwlans.
“Yn ôl yr hyn rwy’n ddeall mae criwiau ambiwlans sydd wedi eu lleoli yng Ngheredigion yn aml yn croesi’r ffin i Bowys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro gan adael Ceredigion heb wasanaeth.
“Yn ogystal, mae trosglwyddiadau o fewn ysbytai sy’n cael eu hymgymryd gan griwiau ar gyfer rhwydwaith trawma a gofal arbenigol iechyd y galon yn gallu tynnu criwiau o’u gorsafoedd am nifer o oriau ar y tro.
“Rwy wedi clywed bod criwiau yn gweithio ymhell dros amser gorffen shifftiau, a bod yna yn aml amseroedd aros hir i griwiau y tu allan i’r Ysbyty sy’n eu rhwystro rhag ymateb i argyfyngau eraill.
“Dim ond cynyddu bydd y pwysau ar staff a pheryglu cleifion gyda’r newidiadau hyn. Mae’n gwbl annerbyniol i golli’r ddau ambiwlans yma yn ystod y dydd a rhagor o ofal brys fin nos ac ar benwythnosau, ac mae’n gosod bywydau yng Ngheredigion mewn peryg.”