Fe gafwyd 585 o achosion o covid ym Môn ym mis Awst – y lefel uchaf o unrhyw fis ers i’r pandemig gychwyn nôl ym Mawrth 2020.

Ac mae ceffylau blaen y cyngor sir yno yn erfyn ar drigolion i gymryd gofal.

Dywedodd Cynghorydd Llinos Medi, sy’n arwain Cyngor Môn:

“Mae achosion Covid-19 yn cynyddu’n gyflym iawn ar yr Ynys, ac mae dyletswydd arnaf i ailadrodd y dylai pawb gymryd pob rhagofal posibl i gadw eu hunain a’u cymuned yn ddiogel.”

“Rydw i’n llwyr werthfawrogi bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn hynod o anodd a heriol i bawb. Fodd bynnag, ni allwn adael i’r gwaith caled yr ydym wedi’i wneud hyd yma fynd yn wastraff. Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus – gwisgo masg, cadw pellter diogel oddi wrth bobl eraill, golchi’ch dwylo’n rheolaidd a gadael digon o awyr iach i mewn.”

Mae mwy a mwy o achosion Covid-19 positif yn gysylltiedig â phobl yn dod at ei gilydd mewn digwyddiadau cymdeithasol – gwyliau, partis a digwyddiadau.

Anogir trigolion Ynys Môn sydd wedi bod yn y math yma o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ddiweddar i gael prawf llif unffordd cyflym, hyd yn oed os ydynt wedi’u brechu’n llawn ac nad ydyn nhw’n arddangos symptomau.