Er i ganrif a mwy fynd heibio ers i fenywod gael yr hawliau i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig, mae dynion yn parhau i deyrnasu ar lefel cynghorau sir ein democratiaeth.

Ledled Cymru, dim ond 28% o gynghorwyr sir sydd yn ferched, ac o holl arweinwyr y cynghorau, dim ond pump ohonyn nhw sydd yn fenywod.

Ac mae yna lawer o resymau am y ffaith bod merched ddim yn ymwneud â gwleidyddiaeth leol, yn ôl adroddiad gan yr elusen hawliau merched, Cymdeithas Fawcett.

Ymysg y rhesymau a nodir mai negeseuon sarhaus a diffyg polisïau gofal plant.

Ac mae Cymdeithas Fawcett yn barnu ei bod am gymryd 82 mlynedd i gynghorau sir Cymru fod yn gwbl gydradd, ar y lefel o gynnydd presennol.

Dywedodd y Gymdeithas bod angen i bleidiau a chynghorwyr wneud mwy i annog merched i sefyll mewn etholiadau.

Angen chwalu camsyniad

Un o’r menywod rheiny sy’n arwain cyngor sir yw Philippa Marsden.

Hi oedd y cyntaf i arwain Cyngor Caerffili yn llawn amser pan ddaeth hi i’r swydd yn 2019.

“Wrth edrych ar draws ein grŵp rydyn ni’n ymwybodol iawn bod angen i ni annog mwy o fenywod i sefyll yn yr etholiad fis Mai nesaf,” meddai.

“Fe fyddwn ni’n sicr yn hybu cymaint o’n haelodau Llafur presennol sy’n fenywod i fynd ati i sefyll.

“Yn aml iawn mae yna ganfyddiad bod [gwleidyddiaeth] ddim ar eu cyfer nhw, felly mae angen i ni chwalu’r camsyniad hwn o beth mae’n ei olygu i fod yn gynghorydd.

“Mae angen i ni hefyd ysbrydoli pobl i sefyll o’r holl feysydd cydraddoldeb, i gael gwir amrywiaeth.”