Mae talaith Texas wedi pasio deddf sy’n gwneud erthylu’n anghyfreithlon gyda’r rhan fwyaf o achosion.
Dyma’r newid mwyaf i hawliau erthylu yn yr Unol Daleithiau ers 1973, pan gafodd ei gyfreithloni ymhob talaith.
Byddai’r deddfau newydd yn rhwystro unigolyn rhag cael erthyliad unwaith mae modd canfod curiad calon, sydd ar ôl tua chwe wythnos.
Mae’r cyfnod hwnnw cyn i ferched wybod eu bod nhw’n feichiog fel arfer.
Clinigau
Does dim apêl eto gan y Goruchaf Lys i atal y gyfraith, a fyddai’n gwneud 85% o achosion erthylu yn anghyfreithlon, gan orfodi llawer o glinigau i gau eu drysau.
Mae o leiaf 12 talaith wedi ymgeisio i wneud newidiadau tebyg yn y gorffennol, ac mae pob un wedi cael eu gwrthod.
Texas sydd eisoes â rhai o’r deddfau llymaf yn erbyn erthylu yn yr Unol Daleithiau.