Fe wnaeth nifer y marwolaethau wythnosol sy’n gysylltiedig â Covid-19 aros yn eithaf cyson yng Nghymru ym mis Awst.
Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn amcangyfrif y byddai 92% o oedolion Cymru wedi profi’n bositif am wrthgyrff Covid-19 ddechrau Awst.
Ar gyfer yr wythnos yn gorffen ar 20 Awst, cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 18 o dystysgrifau marwolaethau, o gymharu ag 19 yn yr wythnos flaenorol.
Bu 598 o farwolaethau yn yr wythnos yn gorffen ar 20 Awst yng Nghymru, sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd dros y bum mlynedd flaenorol.
Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, byddai 92% o oedolion Cymru wedi profi’n bositif am wrthgyrff Covid-19 yn yr wythnos yn dechrau ar 9 Awst.
Gwrthgyrff
Mae presenoldeb gwrthgyrff yn awgrymu bod y person wedi cael ei heintio â Covid-19 neu wedi derbyn y brechlyn.
Ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 9 Awst, mae amcangyfrifon yn dangos y byddai 83.9% o bobol rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru wedi profi’n bositif am wrthgyrff.
Mae lefelau positifrwydd ar eu huchaf yn y grwpiau 25 a 59 oed – gyda’r canrannau ar gyfer y grwpiau hynny rhwng 93% a 96%.
Er bod cyfraddau positifrwydd yn parhau’n uchel ymysg pobol hŷn, mae’n bosib gweld gostyngiad yn y cyfraddau hyn yng Nghymru.
Yn ôl yr amcangyfrifon, roedd mwy o bobol dros 80 oed yn profi’n bositif ynghanol mis Mai nag ar unrhyw adeg arall – gyda’r ganran ar 93.8%.
Positifrwydd
Erbyn hyn, mae’r ganran honno wedi gostwng i 82.1%.
Mae posib gweld tueddiadau tebyg yn y grwpiau 75 i 79 oed, 70 i 74 oed, a 65 i 69 gyda chanrannau positifrwydd yn y grwpiau hynny wedi disgyn rhwng 4.8% a 6.3% ers yr oedden nhw ar eu huchaf.
“Mae positifrwydd gwrthgyrff yn parhau’n uchel ar draws y rhan fwyaf o oedolion, ac mae’r cynnydd diweddar ymysg pobol ifanc yn adlewyrchu cyfraddau brechu uwch ymysg pobol dan 35 oed,” meddai Esther Sutherland, Uwch Ystadegydd ar gyfer Arolwg Heintiadau Covid-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Mae cyfraddau’n parhau’n uchel ymysg y grwpiau oedran hynaf, ond rydyn ni’n dechrau gweld dirywiad mewn positifrwydd yn y grwpiau hyn ar draws rhai rhanbarthau a gwledydd.”
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn pwysleisio nad yw profi’n bositif am wrthgyrff yr un fath â chael imiwnedd rhag Covid-19.