Mae ambell i enw Cymraeg wedi ymddangos ar restr enwau stormydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cafodd y rhestr, a fydd yn rhedeg o Fedi 2021 i Awst 2022, ei gyhoeddi heddiw ac mae’n cynnwys Arwen, Gladys ac Olwen.

Eleni, cafodd y cyhoedd gyfle i awgrymu enwau, gyda’r Swyddfa Dywydd, Met Éireann, a KNMI, Swyddfa Dywydd yr Iseldiroedd, yn dewis yr enwau terfynol.

Fe gafodd dros 10,000 o awgrymiadau eu gwneud, gyda’r enwau sydd wedi’u dewis yn adlewyrchu rhesymau cofiadwy dros eu hawgrymu.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’r enwau’n adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a’r Iseldiroedd, a’r enw cyntaf i ymddangos fydd Arwen – sy’n boblogaidd yn sgil llyfrau Lord of the Rings.

Ymysg yr enwau eraill ar y rhestr, mae’r enw Albaneg Logan, a gafodd ei awgrymu gan sawl rhiant a nain a thaid – gan gynnwys un a ddywedodd bod ei nai yn “rhedeg trwy’r tŷ fel corwynt”, ac un “sydd mor sydyn â mellten” fel gôl-geidwad.

Mae enw cath sy’n “dod mewn ac actio fel storm” wedi ymddangos ar y rhestr hefyd, gyda Storm Ruby ymhlith yr enwau.

“Codi ymwybyddiaeth”

Mae’r enwau’n cael eu dewis gan fodloni nifer o feini prawf, gan gynnwys a oes grŵp enwi stormydd arall am ei ddefnyddio, a gafodd stormydd o’r un enw yn y gorffennol effaith sylweddol, ac a ydi’r enw wedi’i ddefnyddio’n ddiweddar.

Bydd y stormydd yn cael eu henwi pan mae’n amlwg eu bod nhw am gael effaith ‘ganolig’ neu ‘uchel’ ar y Deyrnas Unedig, Iwerddon neu’r Iseldiroedd.

Pwrpas enwi stormydd yw helpu’r wasg a’r cyhoedd i gyfathrebu effeithiau stormydd yn well.

“Dyma’r seithfed flynedd i ni enwi stormydd gyda’n partneriaid Ewropeaidd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth am effaith tywydd eithafol er mwyn cadw pobol ymhob cenedl yn ddiogel,” meddai Will Lang, Pennaeth Gwasanaeth Rhybuddion Tywydd Eithafol Cenedlaethol y Swyddfa Dywydd.

“Rydyn ni gyd yn ymwybodol o’r tywydd eithafol sydd wedi bod dros Ewrop ac yn fyd-eang yn y misoedd diwethaf, ac rydyn ni’n gweithio er mwyn defnyddio pob arf posib i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am y peryglon posib, ac mae enwi stormydd yn un ffordd o wneud hynny.

“Rydyn ni’n gwybod bod enwi stormydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau tywydd eithafol ac yn sicrhau eglurdeb i’r cyhoedd pan fo ei angen fwyaf.”