Mae replica o Feddygfa Llithfaen, lle trafodwyd y syniad o sefydlu canolfan iaith, wedi cael ei hadeiladu yn Nant Gwrtheyrn.
Yn y feddygfa wreiddiol y ganwyd y freuddwyd i brynu ac adfywio’r hen bentref er mwyn cynnal cyrsiau Cymraeg dros hanner can mlynedd yn ôl.
Mae’r feddygfa wreiddiol dal yn Llithfaen, ac yn sgil Covid-19, yn bennaf, cymerodd hi dros flwyddyn a hanner i ail-greu’r adeilad tua milltir a hanner lawr y lôn yn Nant Gwrtheyrn.
Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn sy’n gyfrifol am ail-greu’r feddygfa, ac mae’r adeilad newydd yn edrych yn union fel y gwreiddiol.
Yr hanes
Roedd Hen Feddygfa Llithfaen yn rhan o bractis Dr Carl Clowes, y meddyg ddaeth i’r ardal yn 1970 o’i swydd arbenigol ym Manceinion i redeg meddygfa Llanaelhaearn.
Roedd Dr Carl Clowes a’i wraig Dorothi yn benderfynol o fagu eu plant yn siaradwyr Cymraeg, ac ar y pryd roedd y chwarel gyfagos yn Nhrefor ar fin cau ac roedd Ysgol Llanaelhaearn dan fygythiad hefyd.
Penderfynodd y ddau bod rhaid creu cyfleoedd cyflogaeth newydd, ac ers Deddf gyntaf yr Iaith Gymraeg yn 1967 roedd galw cynyddol am weithwyr dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus.
“Cyfnod newydd”
Roedd y meddyg o’r farn bod angen canolfan breswyl i gynnig cyrsiau Cymraeg i sicrhau hynny, a phenderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn Nant Gwrtheyrn.
“Mae’n anodd credu heddiw mai hanner-can mlynedd yn ôl o’n i’n eistedd yn Y Feddygfa hon yn trafod efo un o’m cleifion, oedd â chysylltiad â’r chwareli, y posibilrwydd o brynu’r ‘Nant’ er budd yr ardal,” meddai Dr Carl Clowes wrth edrych yn ôl ar y cyfnod.
“Cyntefig oedd yr adeilad ond cyffrous oedd y meddylfryd. Roedd dybryd angen gwaith newydd yn yr ardal a pheiriant i hyrwyddo hyder pobl yn y Gymraeg – tybed a fyddai Nant Gwrtheyrn yn adnodd allai gyflawni hyn? Pan wyt yn chwech ar hugain oed, rwyt yn medru ‘symud mynyddoedd’!
“O fewn y degawd, wedi imi ymadael â’r practis, trosglwyddais y ‘cwt sinc’ i’r egin Ymddiriedolaeth i’w defnyddio fel ei swyddfa gyntaf. Un o’r achlysuron mwya’ difyr yn hanes Y Feddygfa fel swyddfa oedd ymweliad gan Syr Wyn Roberts [Gweinidog Gwladol yn Y Swyddfa Gymreig] a Paddy O’Toole [Gweinidog y Gaeltacht yn Iwerddon]. Roedd y pictiwr o weld Wyn a Paddy, a’u entourage, yn ymlwybro i fyny’r steps – a’u Daimlers estynedig yng nghanol y lôn – yn un i’w drysori, ond roedd Wyn yn benderfynol o rannu ein gweledigaeth efo ‘Paddy’!”
“Mae’r bachau cig sydd i’w weld yn yr ystafell aros yn dyst i’w defnydd yn y gorffennol ond, heddiw, mae’r adeilad yn dechrau ar gyfnod newydd yn ei hanes, yn crynhoi pennod bwysig yn hanes ein gwasanaeth iechyd.”
“Rhan flaenllaw”
Bydd y Feddygfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan Dr Eilir Hughes, meddyg lleol, a dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn eu bod nhw’n “arbennig o falch” ei fod wedi cytuno i’w hagor.
“Mae Dr Hughes yn cyflawni’r un swyddogaeth yn yr ardal ag oedd Dr Clowes yn y blynyddoedd pan oedd yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio,” meddai Huw Jones.
“Mae hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw, fel Carl o’i flaen, i godi ymwybyddiaeth o’r berthynas rhwng lles y gymuned ac iechyd unigolion. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei waith ac am y gymwynas hon.”
Bydd agoriad swyddogol y Feddygfa yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 3 Medi am 11 y bore.