Mae’r BBC a Cymru Greadigol wedi cyhoeddi partneriaeth newydd sydd am geisio rhoi’r diwydiant teledu yng Nghymru ar lwyfan byd-eang.

Cafodd cytundeb ei lofnodi heddiw rhwng y darlledwr a’r asiantaeth o Lywodraeth Cymru, sy’n ymgais i geisio “adlewyrchu’r cenhedloedd mae’r [BBC] yn ei gwasanaethu”, ac adeiladu ar lwyddiant diweddar y diwydiannau creadigol.

Bydd y bartneriaeth felly’n gyfrifol am gefnogi dramâu, comedi a chynnwys ffeithiol sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys rhaglenni fel y gyfres ddrama, The Pact, a chyfres ddogfen newydd ar gyfer BBC Three, Hot Cakes.

Byddan nhw’n cydweithio dros y dair blynedd nesaf, gyda bwriad i sefydlu partneriaeth hirdymor yn y pen draw.

“Adlewyrchu’r cenhedloedd”

Fe ddywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, wrth wneud y cyhoeddiad ei fod yn gyffrous wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

“Mae’n holl bwysig fod y BBC yn adlewyrchu’r cenhedloedd mae’n ei gwasanaethu,” meddai.

“Yn gynharach eleni fe nodais yn glir fod hwn yn flaenoriaeth allweddol i’r BBC a bydd gweithio gyda phartneriaid fel Cymru Greadigol yn ein cynorthwyo i wireddu’r uchelgais honno.

“Mae Cymru yn ganolbwynt i egni creadigol, ac rwyf am weld hynny’n ffynnu a thyfu.

“Mae heddiw’n nodi dechrau partneriaeth gyffrous, hirdymor rhwng y BBC a Chymru Greadigol.”

“Mynediad at dalent Cymreig newydd”

Roedd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon, yn hapus wrth ystyried cyfleoedd y bartneriaeth.

“Mae’r [gytundeb] hon yn nodi ein gweledigaeth gyffredin i gefnogi sector diwydiannau creadigol yng Nghymru,” meddai.

“[Maen nhw’n ddiwydiannau] llewyrchus, yn amrywiol ac o safon fyd-eang ac yn rhagori ar gynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys.

“Mae’r bartneriaeth hon felly’n gyfle gwych i ddarganfod a chael mynediad at dalent Cymreig newydd o bob cwr o Gymru.”