Roedd creu cerddoriaeth newydd sbon yn seiliedig ar hen ganeuon ac alawon yn gyfle i roi “blas gwahanol” ar ddarnau o’r gorffennol.

Yn ystod y cyfnod clo, bu AVANC, sef Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, yn tyrchu drwy archifau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gan roi bywyd newydd i hen ddarnau, mae’r alawon a’r caneuon wedi’u bwydo i mewn i set werin newydd a fydd yn cael ei ffrydio wythnos i heno (3 Medi).

Cafodd y gwaith ei wneud ar wahân, cyn dod ynghyd i recordio, ac er bod heriau’n codi wrth weithio dros y we, cynigiodd hynny “wagle” i’r criw arbrofi, meddai Elisa Morris, un o’r aelodau.

Ffurfiwyd AVANC, prosiect gan Trac Cymru, yn 2017/18, gan ddod â cherddorion gwerin ifanc Cymru ynghyd dan arweiniad creadigol Patrick Rimes, a’r tiwtoriaid Gwen Màiri a Sam Humphreys.

“Gwledd o stwff”

“Roedd gweld beth sydd ar gael yn ddigidol yn dipyn o agoriad llygad i fi, ac i dipyn o aelodau o’r band dw i’n credu,” meddai Elisa Morris, sy’n canu’r delyn i AVANC, ac yn canu a chlocsio’n achlysurol.

“Gaethon ni Nia Mai Daniel o’r Llyfrgell Genedlaethol yn dod mewn ar Zoom ym mis Ionawr ac fe wnaeth hi roi cyflwyniad ffab i ni o’r holl gasgliadau sydd ar gael yn ddigidol, wedyn aethon ni drwyddi.

“Aeth pob un ohonom ni a thrio ffeindio rhywbeth ein hunain, naill ai bod o’n alaw neu yn ryw gân newydd doedden ni ddim wedi dod ar ei thraws o’r blaen a ffeindio ffordd o gymryd yr alaw neu’r gân ac efallai wedyn newid rhai elfennau o’r gân.

“Roedd rhai ohonyn nhw roedden ni’n gallu rhoi’n syth mewn i’r set ac wedyn gweithio o fan yna.

“Mae yna gymaint o wledd o stwff ar gael yn ddigidol, ac fe wnes i ffeindio cwpwl o ganeuon, fe wnaeth pobol eraill ffeindio alawon, ac mae hwnna wedi bwydo mewn i’r set sydd gennym ni yn y gig rhithiol wedyn,” esboniodd Elisa Morris wrth golwg360.

“Lot ohono fe oedd ffeindio alawon fyse pobol heb eu chwarae am amser maith, ac wedyn gallu rhoi blas hollol wahanol arnyn nhw a falle troi nhw ychydig mwy modern.

“Roedd yna un alaw ddaethon ni ar ei thraws, o’r enw Money in Both Pockets. Mae’r alaw yna nawr mewn set, ac mae’n swnio’n hollol fodern. Rydyn ni dal yn defnyddio’r alaw bron fel cafodd ei ‘sgwennu ond rydyn ni wedi gallu troi o mewn i rywbeth sy’n swnio’n hynod fodern, a dw i’n credu bod e’n sioc i fi bod hwnna wedi dod o’r archif achos roedd o’n swnio i fel rhywbeth eithaf cyfoes.

“Fi’n credu bod hwnna’r ffordd roedden ni wedi gallu rhoi o mewn cyd-destun newydd.

“Rydych chi o hyd, falle, yn meddwl am stwff y llyfrgell fel rhywbeth sydd ymhell yn ôl mewn hanes, a falle ddim yn rhywbeth sy’n ddefnyddiol a’i fod am swnio’n hŷn neu rywbeth fyddai ddim yn apelio at ein clustiau ni heddiw.

“Ond fel cerddorion roedd hi’n grêt gallu ffeindio’r trysorau bach yna trwyddi.”

“Gwagle i arbrofi”

Cafodd y gwaith ei greu yn ystod y cyfnod clo, a rhoddodd hynny gyfle i sicrhau bod unigolion yn gallu “rhoi eu stamp” ar setiau, yn fwy na pe bai’r holl griw mewn ystafell.

“Roedd gweithio’n ystod y cyfnod clo wedi rhoi lot mwy o wagle i ni drio pethau ma’s ac arbrofi lot mwy,” eglurodd Elisa Morris.

“Roedden ni’n gallu eistedd ar bethau am bach yn hirach efallai.

“Nawr ein bod ni wedi gorfod recordio’n hunain adre, mae pob un ohonom ni wedi dod i arfer.”

Ychwanegodd bod Sam Humphreys, a dau o aelodau’r band Osian Gruffydd a Rhys Morris, yn “whizzes” ar recordio sain, a chymysgu.

“Pan ydyn ni mewn stafell, mae 11 ohonom ni nawr, ond mae e wedi bod yn 13 i 14 ohonom ni’n gweithio ar rywbeth… mae bod yn y deinamig yna’n gallu bod yn anodd gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd perchnogaeth dros rywbeth.

“Yn y sefyllfa yma rydyn ni wedi gallu gwneud yn siŵr bod unigolion yn cymryd perchnogaeth lwyr dros set, achos bod mwy o amser gyda ni wedi bod i ddatblygu pethau.

“Fi’n teimlo bod llais lot o aelodau’r band wedi dod trwyddo lot mwy yn y gerddoriaeth y tro hyn.”

“Calonogol”

Daeth y criw ynghyd i recordio’r set ym mis Gorffennaf, ac roedd hi’n “od” sylwi eu bod nhw’n dal i allu chwarae gyda’i gilydd, meddai Elisa Morris.

“Pan ddaethon ni’n ôl at ein gilydd, roedd e’n hynod emosiynol ac fe wnaeth y clic yma just digwydd,” meddai.

“Yn amlwg dydyn ni ddim wedi cael y profiad o chwarae gyda’n gilydd ers hir, roedd o’n eithaf calonogol bod yn ôl a mynd ‘Ie, fi’n mwynhau hwn, mae hwn yn rhywbeth dw i moyn gwneud mwy ohono’.

“Roeddwn i mor falch gyda beth wnaethon ni lwyddo i roi at ei gilydd, mae hwnna’n set yn ei hunan ac mae set llawn arall gyda ni rydyn ni wedi bod yn ei wneud o’r blaen. Mae gyda ni lot fawr o stwff nawr.”

Mae cerddorion o dros Gymru yn aelodau o AVANC, sy’n “hyfryd”, meddai Elisa Morris.

“Yn aml, gyda rhywbeth mwy niche fel gwerin, dwyt ti ddim yn cael yr un cyfle gymaint i gwrdd â phobol sydd efo’r un diddordeb yn y gerddoriaeth Gymreig”.

“Mae just gweld mwy o gyfleoedd nawr yng Nghymru yn digwydd i bobol i ifanc allu dod a chreu cerddoriaeth gwerin just yn wych.

“Mael lot o hwnnw i wneud efo stwff Trac fel Gwerin Gwallgo a Gwerin Iau a phethau fel hynny.”